Skip to main content

Grace period agreed to support bus pass holders who have yet to apply for their new travel cards

18 Rhag 2019

Mae cynlluniau wedi cael eu cyhoeddi ynglŷn â’r hyn fydd yn digwydd o 31 Rhagfyr 2019 ymlaen, ar ôl i raglen adnewyddu fwyaf Cymru ddod i ben.

Mae’r cynlluniau hyn yn gam pwysig tuag at helpu'r nifer bach o bobl sydd heb wneud cais am eu cardiau newydd neu heb eu cael eto.

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn rheoli'r rhaglen ailgyhoeddi er mwyn darparu Cardiau Teithio Rhatach newydd i bobl anabl a dros 60 oed cyn iddynt ddirwyn i ben ddiwedd mis Rhagfyr 2019.

Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru, “Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi gwneud cais am eu cardiau bws newydd hyd yn hyn. Ers mis Medi, rydyn ni wedi cael 550,000 o geisiadau, gan gynnwys 25,000 o geisiadau papur, ac mae llawer iawn o waith wedi bod yn cael ei wneud y tu ôl i’r llenni er mwyn prosesu'r holl geisiadau mor gyflym â phosib.  Fodd bynnag, mae’n bosib bod rhai pobl heb wneud cais eto, neu fod cwsmeriaid yn dal yn aros i’w cardiau newydd gyrraedd. O ganlyniad i hyn, byddwn ni’n gweithredu cyfnod gras yn y flwyddyn newydd, ac rydyn ni wedi gweithio gyda gweithredwyr bysiau i gytuno ar gyfnod o ddau fis.  Yn ystod y cyfnod hwn, dylai gyrwyr bysiau dderbyn hen gardiau teithio a chardiau newydd. Mae’n bwysig pwysleisio mai trefniant dros dro yw hwn ac nad ydym yn ymestyn y dyddiad cau.  Bydd rhaid i’r rheini sy’n dymuno parhau i gael manteision teithio yn 2020 wneud cais am gerdyn newydd erbyn 31 Ionawr er mwyn gwneud yn siŵr bod gennym ni amser i gyflwyno cerdyn newydd cyn 29 Chwefror.”

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Dywedodd y Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: "Mae'r rhaglen adnewyddu wedi bod yn ymgymeriad enfawr ac mae'r ffordd y mae Trafnidiaeth Cymru wedi gweithio gydag awdurdodau lleol a sefydliadau partner wedi creu argraff dda arnaf. Mae llawer o bobl sy'n gymwys am docyn bws ymysg y rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau.

"Er bod y rhan fwyaf o geisiadau wedi’i wneud, mae'r dyddiad dod i ben yn prysur agosáu ac rydym wedi cytuno ar gyfnod gras swyddogol. Bydd yr estyniad dros dro hwn yn rhoi mwy o amser i'r rhai sydd ei angen, ac yn helpu i leddfu pryder pobl sydd heb dderbyn eu cerdyn newydd."

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio ar wneud yn siŵr bod pawb sydd wedi gwneud cais yn cael eu cardiau cyn gynted â phosib, a bod y rheini sy’n dibynnu ar eu cardiau bws yn ymwybodol o'r newidiadau ac yn gwybod sut mae gwneud cais a chael mynediad at gymorth.

Mae’n hawdd gwneud cais ar-lein.  Mae’n cymryd tua 10 munud yn www.trc.cymru/cardiauteithio.  Mae copïau caled o'r ffurflenni cais ar gael gan gynghorau lleol neu drwy ffonio 0300 303 4240.