English icon English
mhorwood Covid 19 Oxford-Astrazeneca Vaccine 040121 18 (1)

Dros 500,000 dos mewn 60 diwrnod

60 days and over 500,000 doses delivered

Heddiw mae 60 o ddiwrnodau wedi pasio ers i’r gwaith brechu rhag COVID-19 ddechrau yng Nghymru ac erbyn heddiw mae mwy na hanner miliwn o bobl wedi cael eu brechlyn cyntaf rhag COVID-19.

Gyda’r cyfanswm sydd wedi’u brechu yn fwy na 523,000 erbyn heddiw, golyga hyn fod bron i un o bob chwech o oedolion yn awr wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn sy’n diogelu bywyd. 

Wrth i gynlluniau Cymru i ddiogelu’r genedl fynd rhagddynt, dyma’r ystadegau diweddaraf: [ddydd Gwener 5 Chwefror]

  • Mae mwy na hanner miliwn o bobl ar draws Cymru wedi cael eu dos cyntaf – bydd hyn yn codi i 600,000 o fewn ychydig ddiwrnodau
  • Mae hynny gyfystyr â llenwi Stadiwm Principality yng Nghaerdydd saith gwaith neu Stadiwm Eirias ym Mae Colwyn 86 gwaith
  • …neu rywun bob pedwar eiliad
  • O’r 4 prif grŵp blaenoriaeth, mae Cymru wedi brechu;

- 83% o unigolion dros 80 oed

- 62% o unigolion 75 i 79 oed

- 34% o unigolion 70 i 74 oed

- A mwy na 112,400 o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen

  • Mae Cymru ar y trywydd cywir i gynnig y brechlynnau i’r holl bobl gymwys yn y pedwar prif grŵp blaenoriaeth erbyn canol mis Chwefror, os bydd cyflenwadau ar gael ar y raddfa bresennol
  • Mae bron i draean o’r holl bobl yn y 9 prif grŵp blaenoriaeth wedi’u brechu hefyd
  • Yr wythnos diwethaf, rhoddwyd y brechlyn i fwy o bobl yn ôl cyfran o’r boblogaeth yng Nghymru nag yn unrhyw wlad arall yn y DU
  • Y penwythnosau yw’r adeg brysuraf, yn enwedig ar gyfer y bobl sy’n rhoi’r brechlynnau mewn lleoliadau gofal sylfaenol. Golyga hyn y gall gymryd ychydig ddyddiau i uwchlwytho’r data o’r diwrnodau hyn.
  • Mae mwy na 34 o ganolfannau brechu torfol ar agor ar draws Cymru ar unrhyw adeg ac mae’r rhan fwyaf ar agor saith diwrnod yr wythnos
  • Bydd chwech yn rhagor o ganolfannau brechu torfol yn agor yn ystod yr wythnosau nesaf
  • Mae gennym fwy na 400 o glinigau o dan arweiniad meddygon teulu – y targed gwreiddiol oedd 250 erbyn diwedd mis Ionawr
  • Mae mwy na 17 o safleoedd ysbyty hefyd yn darparu’r brechlynnau
  • Ychydig iawn o frechlyn sydd wedi’i wastraffu, llai na 1% sydd heb ei ddefnyddio. Mae hyn yn eithriadol o isel ac mae’r diolch am hynny i’r gweithlu ymroddedig sy’n darparu’r adnodd gwerthfawr hwn

Pan fydd rhywun wedi cael y brechlyn, gofynnwn iddynt ddilyn yr un camau i’w diogelu eu hunain a diogelu Cymru; dylid gwisgo gorchudd wyneb, cadw pellter o 2 fetr, golchi eich dwylo’n rheolaidd ac awyru eich ystafelloedd cymaint â phosibl.

Rydym yn dal i ddysgu sut y bydd y brechlyn yn effeithio ar drosglwyddiad y feirws.

Cofiwch, byddwch yn cael eich gwahodd i ddod i apwyntiad pan ddaw eich tro – peidiwch â ffonio eich gwasanaethau iechyd lleol, oni bai y gofynnir ichi wneud hynny, gan y bydd hyn yn ychwanegu at eu llwyth gwaith sydd eisoes yn drwm