Skip to main content

Blazing a trail for community rail; Cambrian Railway Partnership on track for Accreditation success!

08 Gor 2019

Mae llwyddiant ysgubol y bartneriaeth yn dyngedfennol i dwf y rheilffordd.

Mae achrediad yn golygu bod partneriaeth wedi cyrraedd safonau'r Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru i Reilffyrdd Cymunedol.  Mae’r broses yn golygu bodloni meini prawf llym wedi’u seilio ar sylfaen gadarn o gynllunio busnes a rheolaeth ariannol, bod y busnes yn gweithio drwy gydweithredu a’i fod yn llais sy’n cynrychioli ei gymuned.

Hanfod rheilffordd gymunedol yw sicrhau bod cymunedau yn cael y mwyaf o’u rheilffordd.

Gan weithio ochr yn ochr â phartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol y Cambrian yn chwarae rôl bwysig mewn cynhwysiant cymdeithasol, lles cymunedol a datblygu economaidd. Ar yr un pryd, mae’n hyrwyddo’r rheilffordd fel rhan allweddol o deithio cynaliadwy, iach.

Ers ei sefydlu sawl blynedd yn ôl, mae’r bartneriaeth wedi cynnal llawer o ddigwyddiadau ac wedi hyrwyddo’r lein - mae hynny’n cynnwys mynd â’r traeth i Orsaf Birmingham New Street y llynedd. Diolch yn rhannol i’w gwaith rhagorol, mae nifer y teithwyr ar y lein wedi cynyddu’n sylweddol.

Yn 2004/5, dim ond 206,844 wnaeth deithio ar y llinell. Erbyn 2018/19, mae’r ffigwr yma wedi cynyddu i 462,734.

ClaireWilliams1

(Claire Williams, yr ail o’r chwith, yn lansiad Gweledigaeth Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru, gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates AC)

Dywedodd Claire Williams, Swyddog Datblygu Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian:  “Un o gyfraniadau pwysicaf rheilffordd gymunedol yw dod â phartneriaid a’r gymuned ynghyd. Mae trefi a phentrefi wedi elwa o’r hyrwyddo ehangach, er enghraifft twristiaeth, ond mae hefyd yn datblygu mwy o ymdeimlad o falchder ac awydd teithio ar y trenau.  Un teulu ydyn ni yng Nghymru a’r Gororau ac rwyf wrth fy modd â’n llwyddiant, mae’n garreg filltir o bwys ac yn un i’w dathlu.”

Dywedodd Hugh Evans, Pennaeth Rheilffyrdd Cymunedol yng Ngwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru: 

“Mae hwn yn llwyddiant arbennig ac rwyf mor falch dros Claire a’i holl waith caled. Rydyn ni wastad wedi arwain y ffordd o ran Rheilffyrdd Cymunedol yng Nghymru a’r Gororau ac nid yw hyn ond un enghraifft arall o hynny. Mae Rheilffyrdd Cymunedol wedi helpu cynifer o’r llinellau rheilffyrdd ar ein rhwydwaith i lwyddo, gan dyfu twristiaeth a hyrwyddo’r rheilffyrdd ymysg grwpiau lleol, a dangos sut y gallant weithio iddyn nhw. Mae’n wych mai’r Cambrian yw’r gyntaf yn y Deyrnas Unedig, ond mae ein partneriaethau i gyd yn gwneud gwaith rhagorol ac maent yn amhrisiadwy er sicrhau bod y gwasanaeth yn gweithio i’n holl gymunedau.”

Dywedodd y Gweinidog Rheilffyrdd, Andrew Jones: “Mae Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian yn chwarae rhan bwysig yn ein rhwydwaith rheilffyrdd, yn darparu pwrpas a balchder, ac yn rhoi llai i bobl o ran sut y gall eu rhwydwaith rheilffyrdd lleol weithio iddyn nhw.

“Drwy ein Strategaeth Rheilffyrdd Cymunedol, mae’r llywodraeth hon yn canolbwyntio ar gefnogi twf llawer mwy o bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol llwyddiannus ar draws y wlad.”

Dywedodd Jools Townsend, prif weithredwr Cymdeithas y Partneriaethau Rheilffordd Cymunedol: “Rydym yn llawn cyffro o weld Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol y Cambrian, un o fwy na 1,000 o grwpiau rheilffordd cymunedol ar draws y wlad, yn arwain y ffordd fel y grŵp cyntaf i gael ei achredu yn y DU. Mae’r cynllun newydd hwn yn sêl bendith sy’n tynnu sylw at Bartneriaeth Rheilffordd y Cambrian fel esiampl wych o bartneriaeth rheilffordd gymunedol flaengar, sy’n hyrwyddo twristiaeth werdd mewn ffordd sy’n dod â budd i’r rhan hardd hon o’r byd gan ei chyfoethogi a’i dathlu.”

Fairbourne