- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
30 Awst 2019
Ffi gwrthdro taw newydd ar gyfer gwasanaethau adeiladu - beth mae’n ei olygu i’ch busnes chi
Mae rheolau newydd am ffioedd TAW yn dod i rym yn y diwydiant adeiladu ar 1af Hydref 2019. Bydd y briff brecwast yma’n eich helpu chi i ddeall sut gall y Ffi Gwrthdro TAW newydd effeithio ar eich busnes a sut i baratoi ar gyfer yr heriau.
Mewn ymgais i fynd i'r afael â thwyll TAW yn y diwydiant adeiladu, mae CThEM yn cyflwyno Ffi Gwrthdro Domestig a ddaw i rym o 1af Hydref 2019 ymlaen.
Mae’r ffi gwrthdro yn golygu bod rhaid i’r cwsmer sy’n derbyn y gwasanaeth penodol dalu’r TAW i CThEM yn hytrach nag i’r cyflenwr. Gall hyn effeithio ar eich llif arian yn y cyfamser, a dyma pam mae Trafnidiaeth Cymru, fel cyflogwr cyfrifol, eisiau sicrhau bod y gadwyn gyflenwi’n gynaliadwy ac yn barod ar gyfer y cyfleoedd a ddaw i’r farchnad yn ystod y 5 mlynedd nesaf ac ar ôl hynny. Hefyd mae’n awyddus i helpu busnesau i ddeall beth mae hyn yn ei olygu iddynt hwy a sut gallant baratoi ar gyfer y rheolau newydd.
Bydd y briff brecwast sy’n cael ei gyllido’n llawn yn esbonio sut mae'r Ffi Gwrthdro TAW Domestig newydd yn gweithio a sut a ble mae’n berthnasol. Byddwn yn darparu sefyllfaoedd perthnasol i helpu’r gadwyn gyflenwi i ddeall sut mae hyn yn berthnasol iddynt hwy.
Agenda
- 08:30 – 09:00 Cofrestru
- 09:00 – 10:15 Esbonio Ffi Gwrthdro TAW Domestig gyda chwestiynau ac atebion drwy gydol y sesiwn
- 10:15 – 10:30 Rhwydweithio a Chloi
26 Medi 2019, 08:30 - 10:30, Hwb Busnes Hwb Creu Entrepreneuriaid Natwest, Caerdydd, CF10 1FS