- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
23 Awst 2019
Mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o noddi Penwythnos Mawr Pride Cymru 2019, a fydd yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd dros benwythnos gŵyl y banc mis Awst.
Mae TrC yn eithriadol o falch o fod yn rhan o’r ŵyl, ac i ddathlu hyn, rydym yn cynnig cyfle i holl wirfoddolwyr Pride Cymru deithio i’r digwyddiad ac yn ôl adref yn rhad ac am ddim ar y trên.
Disgwylir i fwy na 50,000 o bobl ymuno â dathliad mwyaf Cymru o’r gymuned LGBT+, sy'n cynnwys gorymdaith filltir o hyd, marchnad gymunedol, pedair llwyfan a pherfformiadau gan sêr fel Atomic Kitten, Liberty X a Texas.
Eleni, bydd y digwyddiad yn dathlu ei ben-blwydd yn 20 oed, yn ogystal â 50 mlynedd ers terfysg pwysig Stonewall yn Efrog Newydd ym mis Mehefin 1969, un o’r digwyddiadau allweddol yn hanes mudiad rhyddhad LGBT+.
Bydd TrC yn cymryd rhan yn y brif orymdaith, gyda’n cydweithwyr yn cynrychioli’r diwydiant rheilffordd yng Nghymru ochr yn ochr â chyfeillion o Network Rail, Great Western Railway a’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Dywedodd James Price, prif weithredwr Trafnidiaeth Cymru:
“Penwythnos Mawr Pride Cymru yw un o ddathliadau pwysicaf y mudiad LGBT+ yn y DU. Rwy’n falch iawn fod TrC yn cymryd rhan, fel rhan o'n hymrwymiad i hyrwyddo diwylliant amrywiol a chynhwysol cryf ym mhopeth rydym ni’n ei wneud. Rwy’n gobeithio y bydd pawb yn mwynhau’r penwythnos!”
Dywedodd David Jones, cynorthwyydd cyfleusterau yn Trafnidiaeth Cymru:
“Dyma’r tro cyntaf i mi fynd i ddigwyddiad Pride Cymru ar ran TrC, ac rwy'n wirioneddol falch bod y sefydliad yn croesawu'r digwyddiad. Rwy’n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y digwyddiad gyda’m cydweithwyr, yn enwedig fel rhan o’r brif orymdaith ddydd Sadwrn!”
Ychwanegodd Gian Molinu, Cadeirydd a Chyfarwyddwr Cyfreithiol Pride:
“Amrywiaeth a chynhwysiant sy'n bwysig i Pride, ac mae Pride Cymru yn falch iawn o gael gweithio gyda TrC eleni fel partneriaid teithio swyddogol - mae’n enghraifft berffaith o gwmni sy’n dathlu amrywiaeth. Diolch o galon i TrC am ei gefnogaeth - rydym yn edrych ymlaen at gael ymuno â’r tîm i ddathlu yn ystod y penwythnos hwn”