Skip to main content

TfW welcomes 16-17 Saver railcard

14 Awst 2019

Mae Trafnidiaeth Cymru yn croesawu cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth bod cerdyn rheilffordd 16-17 Saver yn mynd i gael ei lansio o fis Medi 2019 ac mae wedi ymrwymo i ddarparu mwy o docynnau am bris gostyngol i bobl ifanc, o fis Ionawr 2020 ymlaen.  

Mae’r cerdyn rheilffordd newydd, a ddatblygwyd gan y Grŵp Cyflawni - Rheilffyrdd, yn darparu gostyngiad o 50% ar bris tocynnau trên ar gyfer hyd at 1.2 miliwn o bobl ifanc 16 a 17 oed ledled y DU. Bydd yn ddilys ar wasanaethau a gaiff eu gweithredu gan bob cwmni trên yng Nghymru a Lloegr, yn cynnwys Trafnidiaeth Cymru, a bydd y rhan fwyaf o docynnau tymor a thocynnau unffordd a dwyffordd safonol yn gymwys ar gyfer gostyngiad, heb isafswm pris.

Bydd y cerdyn rheilffordd yn costio £30 am flwyddyn a bydd yn mynd ar werth o’r 20fed o Awst er mwyn gallu ei ddefnyddio wrth deithio o’r 2il o Fedi. Dyma fydd y cerdyn diweddaraf i gael ei ychwanegu at gardiau rheilffordd y Grŵp Cyflawni - Rheilffyrdd, sef y Cardiau Rheilffordd 16-25, 26-30, Pobl Hŷn, Teulu a Chyfeillion, Dau Berson a Phobl Anabl.

Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i fynd gam ymhellach ac o fis Ionawr 2020, byddwn yn lansio cerdyn rheilffordd newydd ar gyfer pobl ifanc 18 oed, gan ddarparu tocynnau hanner pris ar wasanaethau TrC yng Nghymru i bobl ifanc hyd at ac yn cynnwys y diwrnod cyn eu pen-blwydd yn 19 oed.

Byddwn hefyd yn galluogi plant o dan 11 oed, a phobl ifanc o dan 16 oed ar wasanaethau cyfnodau tawelach, i deithio am ddim yng nghwmni oedolyn sydd wedi talu am ei docyn.

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Rydyn ni wrth ein bodd o weld y cynnyrch hwn yn cael ei gyhoeddi ac rydyn ni’n falch o fod yn rhan o gynllun sy’n cefnogi ein hymrwymiad i gyflawni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Chymru gynaliadwy.

“Rydyn ni nawr yn paratoi i ychwanegu at y cyhoeddiad hwn gyda’n cynllun ein hunain i ddarparu mwy o docynnau am bris gostyngol i bobl ifanc o fis Ionawr ymlaen, ar y cyd â chynlluniau eraill i ostwng pris tocynnau yng Ngogledd a De Cymru. Mae hyn yn rhan allweddol o’n buddsoddiad £5 biliwn i drawsnewid gwasanaeth trenau Cymru a'r Gororau, gan greu rhwydwaith trafnidiaeth hygyrch, fforddiadwy, integredig, diogel ac o safon y mae pobl Cymru yn falch ohono”.