- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
13 Medi 2019
Ar 11 Medi 2019, roedd cynghorau ledled Cymru a Thrafnidiaeth Cymru wedi lansio un o’r rhaglenni mwyaf i ymgysylltu â’r cyhoedd, gyda’r nod o adnewyddu’r holl gardiau bws gwyrdd ledled Cymru. Mae nifer fawr iawn wedi ymateb ac mae miloedd o ddefnyddwyr bysiau eisiau gwneud cais am eu cardiau newydd ar unwaith.
DIWEDDARAF: Yn dilyn mwy o brofi, ers dydd Llun 23 Medi, mae're porth i ymgeisio am docynnau bws newydd nôl ar-lein. Mae'r porth ar gael yma: trc.cymru/cerdynteithio.
Blaenoriaeth Trafnidiaeth Cymru ydy sicrhau bod pobl yn cael y dewisiadau cyflymaf a mwyaf hwylus er mwyn adnewyddu eu cardiau bws. Ar ôl gwrando ar adborth gan bartneriaid yn Age Cymru a Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, sydd wedi gweithio’n agos gyda Trafnidiaeth Cymru drwy gydol y prosiect yma, mae Trafnidiaeth Cymru yn gwneud yn siŵr ei bod hi’n hawdd i bobl gael gafael ar ffurflenni cais.
Bydd ffurflenni cais yn cael eu dosbarthu o ganol wythnos nesaf ymlaen i’r rheini sydd eisoes wedi gofyn am ffurflen, ac mae fersiwn PDF ar gael yn barod ar wefan TrC, er mwyn i bobl allu eu hargraffu gartref. Mae ffurflenni papur hefyd yn cael eu dosbarthu i bob swyddfa cyngor lleol er mwyn i bobl allu cael gafael arnyn nhw yn eu cymunedau lleol.
Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru:
“Rydyn ni’n gweithio gydag Age Cymru a’r Comisiynydd Pobl Hŷn i sicrhau ein bod yn cynnig y lefel iawn o gefnogaeth i’r rheini sydd â’r angen mwyaf. Yr adborth sydd wedi dod i law yw bod llawer o alw am gopïau papur o’r cais. Mae copïau papur bob amser wedi bod yn opsiwn i bobl er mwyn gwneud cais ac roedden nhw ar gael drwy gysylltu â’n desg gymorth. Fodd bynnag, ar ôl ystyried y pryderon sydd wedi cael eu codi gan bobl hŷn wythnos yma, rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod y copïau ar gael gan gynghorau lleol, fel llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol ac mae hefyd yn bosibl i bobl lwytho copi i lawr o’n gwefan trc.cymru/cerdynteithio”.
Dywedodd Victoria Lloyd o Age Cymru: "Ar hyn o bryd byddem yn annog pobl hŷn i beidio â chynhyrfu wrth adnewyddu eu pasys. Nid yw'r dyddiad cau tan 31 Rhagfyr felly mae digon o amser i wneud y cais. Rydym yn falch y bydd Trafnidiaeth Cymru yn sicrhau bod fersiynau papur o'r ffurflenni cais ar gael ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, yn ogystal â nifer o elusennau sy'n cynorthwyo pobl hŷn.Os oes unrhyw un yn poeni am wneud cais, mae cymorth a chefnogaeth ar gael gan linell gymorth Trafnidiaeth Cymru neu asiantaethau cefnogi eraill. "
Dywedodd Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: “Mae llawer o bobl hŷn ledled Cymru wedi dweud wrthyf eu bod yn dibynnu ar eu tocyn bws, sy'n eu galluogi i fynd allan, aros yn gymdeithasol, parhau i ymgysylltu â'u cymunedau a chael mynediad at wasanaethau hanfodol megis siopau a gwasanaethau iechyd.
"Gan y bydd y broses ymgeisio ar gyfer adnewyddu ar-lein yn bennaf, rhywbeth a fydd yn achosi rhywfaint o bryder i bobl hŷn nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd, rwy'n disgwyl i awdurdodau lleol gynnig help i bobl hŷn drwy ddarparu ffurflenni cais papur lle mae eu hangen, neu'r cymorth angenrheidiol fel y gellir cwblhau ceisiadau ar ran unigolyn os oes angen hynny."
Mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a sefydliadau cymunedol, fel Age Cymru, i sicrhau bod digon o gefnogaeth ar gael i’r rheini sy’n poeni am wneud cais.
Mae’r wefan wedi cael ei thynnu i lawr er mwyn i ni allu cynyddu ei chapasiti yn sylweddol i ni allu cyflwyno’r gwasanaeth ar-lein eto cyn gynted ag sy’n bosibl. Yn y cyfamser, mae Trafnidiaeth Cymru yn diolch i bobl am eu hamynedd ac yn dweud wrthyn nhw am beidio â phoeni gan nad oes brys i adnewyddu heddiw. Dyma wythnos gyntaf y rhaglen adnewyddu a fydd ar agor am y 3 mis a hanner nesaf – bydd y cardiau bws presennol yn gweithio tan 31 Rhagfyr 2019.
Nodiadau i olygyddion
Mae’r cerdyn newydd yn dod yn lle pob cerdyn bws 60 oed a throsodd, Person Anabl (5 oed a throsodd), a Chydymaith Person Anabl.
Bydd yr hen gardiau’n cael eu derbyn tan 31 Rhagfyr 2019. Cynghorir pawb sydd â cherdyn i wneud cais am gerdyn newydd mewn da bryd cyn diwedd y flwyddyn er mwyn sicrhau eu bod yn dal i allu mwynhau manteision teithio rhatach.
Mae’r cardiau newydd yn cynnig yr un manteision a hawliau teithio am ddim â’r cardiau presennol. Mae’r cardiau newydd wedi cael eu dylunio i gael eu defnyddio fel rhan o rwydwaith teithio integredig yn y dyfodol.