Skip to main content

£194 Million Investment into Railways Stations in Wales

16 Medi 2019

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi manylion y cynllun buddsoddi gwerth £194 miliwn i wella’r 247 o orsafoedd rheilffordd sydd yng Nghymru.

Mae’r Weledigaeth Gwella Gorsafoedd yn nodi pa welliannau gall cwsmeriaid a chymunedau ddisgwyl eu gweld yn eu gorsafoedd lleol dros y pymtheg mlynedd nesaf.

Bydd y rhaglen uchelgeisiol yn darparu WiFi am ddim, llochesi gwell, teledu cylch cyfyng, darpariaeth well i storio beics a gwybodaeth well i deithwyr ym mhob gorsaf.

Pan fo’n bosibl, bydd Trafnidiaeth Cymru hefyd yn creu cyfleusterau adwerthu newydd, gan gyflwyno cyfleoedd i fusnesau lleol a bydd yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu mannau cymunedol mewn gorsafoedd.

Bydd y gwelliannau’n cynnwys ymestyn y rhaglen Achrediad Gorsafoedd Diogel, achrediad ar draws y DU ar y cyd â’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, a fydd yn gwneud gorsafoedd yn fwy diogel ac yn fwy croesawgar i gwsmeriaid.

Gan ddangos eu hymrwymiad a gan gefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru i greu Cymru sy’n fwy cynaliadwy drwy leihau’r allyriadau carbon sy’n cael eu creu drwy drafnidiaeth, bydd TrC yn creu o leiaf 1,500 o lefydd parcio ychwanegol ar draws y rhwydwaith, a fydd yn ei gwneud hi’n haws i bobl adael eu car a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae'r Weledigaeth hefyd yn nodi sut bydd hygyrchedd yn cael ei wella ar draws y rhwydwaith drwy ddarparu un deg un o gynlluniau Mynediad i Bawb erbyn 2024. Bydd pontydd troed gyda lifftiau neu rampiau’n cael eu gosod a bydd Adran Drafnidiaeth y DU yn talu’n rhannol am hyn.

Fel rhan o’u cynlluniau i ailfuddsoddi yn y cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu, mae TrC wedi cynnal digwyddiadau a gweithdai sydd wedi’u hanelu at gwmnïau bach a chanolig yng Nghymru, gan roi cyfle iddyn nhw gynnig am waith sy’n ymwneud â’r Weledigaeth Gwella Gorsafoedd.

Dywedodd Lloyd Jones, sy’n defnyddio gwasanaethau trên De Cymru yn rheolaidd:

“Rwy’n falch o glywed am y buddsoddiad a fydd yn cael ei wario ar orsafoedd rheilffyrdd ledled Cymru. Rwy’n gymudwr rheolaidd ac felly rwy’n ymwybodol o'r angen sydd i gael cyfleusterau i gwsmeriaid yn y gorsafoedd, a'r angen iddyn nhw fod yn llefydd croesawgar a diogel.”

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Mae Trafnidiaeth Cymru yn trawsnewid trafnidiaeth ar draws Cymru ac mae lansio ein Gweledigaeth Gwella Gorsafoedd yn nodi dechrau rhaglen a fydd yn golygu buddsoddi £194 miliwn. Bydd y buddsoddiad yma i’r 247 o’n gorsafoedd rheilffordd yn gwella’r ffordd maen nhw’n edrych, yn eu gwneud yn fwy diogel ac yn darparu mwy o gyfleoedd masnachol a chymunedol.

“Rydyn ni eisiau gwella’r profiad cyffredinol i gwsmeriaid a chydweithio i ddatblygu partneriaethau gyda chymunedau a busnesau lleol.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

“Rwy’n croesau Gweledigaeth Gwella Gorsafoedd Trafnidiaeth Cymru yn fawr iawn. Bydd yn golygu buddsoddi £194 miliwn mewn gorsafoedd rheilffordd ar draws Cymru a’r Gororau. Dros y 15 mlynedd nesaf yma bydd y buddsoddiad enfawr yma’n gwella pyrth pwysig i’n dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi.

“Mae'r weledigaeth wedi cael ei lansio yn Abertawe - wrth iddi ddathlu hanner can mlynedd fel Dinas - lle bydd yn cyfrannu at ddatblygu system metro a fydd yn barod i ddiwallu anghenion trafnidiaeth y dyfodol. Mae cynlluniau uchelgeisiol i gyflawni rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus a rheilffyrdd gwell ar draws Cymru gyfan ac mae’r buddsoddiad sydd wedi cael ei gyhoeddi heddiw yn gam mawr at hynny.”

Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe:

“Rwy’n cymeradwyo buddsoddiad TrC yng Ngorsaf Stryd Fawr Abertawe; rwy’n falch eu bod yn gweithio gyda’r cyngor i wella’r porth hollbwysig hwn i’r ddinas.

“Byddwn yn falch iawn o weld croeso a fydd yn fwy modern, yn fwy llachar ac yn fwy ffres i ddefnyddwyr y rheilffyrdd pan fyddan nhw’n cyrraedd Abertawe; mae’n cyd-fynd â chynlluniau'r cyngor i adfywio canol y ddinas ac ardal y Stryd Fawr.

“Mae’r ffaith mai dyma fydd prosiect cyntaf Gweledigaeth Gwella Gorsafoedd Cymru gyfan TrC yn ychwanegu at y cyffro wrth i ni ddathlu pen-blwydd y ddinas yn 50 oed.

“Mae Abertawe yn cael ei hadfywio ar raddfa fwy nas gwelwyd ers cenhedlaeth. Rydyn ni’n creu cyfleoedd newydd a fydd yn gweld miloedd yn rhagor o bobl yn byw, yn gweithio ac yn chwarae yng nghanol y ddinas.

“Mae'r prosiectau mawr yn cynnwys yr arena dan do £130m sydd, fel rhan o ddatblygiad Canol Abertawe, yn rhan o Fargen Ddinesig Abertawe sydd werth £1.3bn,”