Skip to main content

All aboard as Milford Haven sight loss group take to the tracks

03 Gor 2019

Roedd Grŵp Cymorth Cymdeithas Facwlaidd Aberdaugleddau yn codi stêm yr wythnos hon wedi iddynt gael eu gwahodd i gymryd rhan mewn Diwrnod Ymgyfarwyddo a drefnwyd gan Trafnidiaeth Cymru.

Aeth aelodau’r grŵp ar y trên am daith awr o hyd o Aberdaugleddau i Gaerfyrddin i brofi rhai o’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael wrth deithio ar drenau Trafnidiaeth Cymru i rai sy’n colli golwg a’r rhai sydd ag anableddau eraill.

Cafodd y grŵp gwmni Geraint Morgan, rheolwr materion cymunedol Trafnidiaeth Cymru ar y daith. Yn ystod un o’u cyfarfodydd misol diweddar, aeth Geraint i ymweld â’r grŵp i siarad â’r aelodau am y cymorth sydd ar gael i unrhyw un â nam ar y golwg sy’n defnyddio’r trên. Yn ogystal, rhoddodd wahoddiad i'r grŵp roi cynnig arni eu hunain.

Roedd y daith yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau a gynhaliwyd ledled y DU fel rhan o’r Wythnos Facwlaidd sy’n rhedeg o Fehefin 24-30. Bellach yn ei phumed blwyddyn, trefnir yr Wythnos Facwlaidd gan y Gymdeithas Facwlaidd i godi ymwybyddiaeth o glefyd macwlaidd. Eleni, mae’r Gymdeithas yn amlygu pa mor bwysig yw ariannu ymchwil i ganfod gwellhad. 

Clefyd macwlaidd yw prif achos colli’r golwg yn y DU. Ar hyn o bryd mae’n effeithio ar bron i 1.5 miliwn o bobl ac mae llawer mwy mewn perygl. Gall y clefyd gael effaith andwyol ar fywydau pobl, gan olygu nad ydynt yn gallu gyrru, darllen na gweld wynebau. Mae llawer o bobl sy’n cael eu heffeithio yn disgrifio colli eu golwg yn debyg i brofedigaeth. Does dim gwellhad ac ni ellir trin y rhan fwyaf o fathau'r clefyd.  Dirywiad macwlaidd sy'n gysylltiedig â heneiddio (DMH) yw ffurf fwyaf cyffredin clefyd macwlaidd, sy’n effeithio ar fwy na 600,000 o bobl, sydd fel arfer dros 50 oed.

IMG 0188


 Dywedodd Madeline Roberts, arweinydd Grŵp Cymorth Cymdeithas Facwlaidd Aberdaugleddau: “Pan ofynnodd Geraint a fydden ni’n hoffi gweld sut mae’r gwasanaeth cymorth wrth deithio’n gweithio, roedden ni’n meddwl ei fod yn syniad gwych.


“Rydw i’n teithio’n aml ar y trên ar fy mhen fy hun, ond dydy llawer o’r grŵp ddim yn ei ddefnyddio’n rheolaidd neu heb deithio ar y trên ers peth amser. Yn syml, nid yw rhai ohonynt yn teimlo’n ddigon hyderus i wneud.  Ond mae cymaint o help a chymorth ar gael os ydych ei angen a does dim byd yn ormod o drafferth i’r staff.


“Gwych hefyd oedd ein bod wedi cael gwneud hyn yn ystod yr Wythnos Facwlaidd a manteisio ar y cyfle i godi ymwybyddiaeth o glefyd macwlaidd a rhannu’r neges â chymaint o bobl tra oeddem ni yno.”

Dywedodd Geraint Morgan, rheolwr materion cymunedol Trafnidiaeth Cymru: “I lawer o bobl sy’n colli eu golwg, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn ffordd bwysig o allu teithio - i’r gwaith, ar gyfer dibenion hamdden neu i gyfarfod teulu a ffrindiau.   Y nod ar gyfer ein sgyrsiau cymorth wrth deithio a’n teithiau ymgyfarwyddo yw helpu i godi ymwybyddiaeth o'r cymorth y gellir ei ddarparu wrth deithio ar y trên.”

Aeth yn ei flaen; “Mae'r teithiau ymgyfarwyddo’n cynnig cyfle i bobl gael profiad o deithio ar drên gyda’r bwriad o roi gwybodaeth a hyder iddynt deithio eto yn y dyfodol.”

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau cymorth wrth deithio sydd ar gael gan Trafnidiaeth Cymru, ewch i https://trc.cymru/gwybodaeth/teithwyr/teithio-hygyrch/cymorth-i-archebu

Mae Grŵp Cymorth Cymdeithas Facwlaidd Aberdaugleddau yn cyfarfod ar ddydd Iau cyntaf pob mis, 2-4pm, yn Llyfrgell a Chanolfan Groeso Aberdaugleddau, Cedar Court, Parc Busnes Havens Head, Aberdaugleddau SA73 3LS.

 

I gael rhagor o wybodaeth am y grŵp, cysylltwch ag Adele Francis, Rheolwr Rhanbarthol y Gymdeithas Facwlaidd, ar 01639 843236 / 07494 468007 neu anfonwch ebost at adele.francis@macularsociety.org

I gael rhagor o wybodaeth am glefyd macwlaidd, ffoniwch y Gymdeithas Facwlaidd ar 0300 3030 111 neu anfonwch ebost at help@macularsociety.org

 

 

Nodiadau i olygyddion


Nodiadau i olygyddion:

 

Bob dydd, bydd tua 300 o bobl yn cael diagnosis o glefyd macwlaidd. Hwn yw prif achos colli’r golwg yn y DU. Mae clefyd macwlaidd yn greulon ac yn eich ynysu.  Mae’n dwyn eich golwg, eich annibyniaeth, a’ch gallu i wneud y pethau yr ydych yn eu mwynhau.

Gall effeithio ar bobl o unrhyw oedran - hyd yn oed plant - ond nid oes digon o wybodaeth am y rhesymau pam, a does dim gwellhad.  Dim ond un ffordd sydd o Drechu Clefyd Macwlaidd am byth. Mae’n rhaid inni ariannu llawer mwy o ymchwil nawr, fel ein bod yn canfod gwellhad, neu ddod o hyd i driniaethau a all ei atal.

Gyda’n gilydd gallwn ariannu'r ymchwil i geisio canfod gwellhad.  Gyda’n gilydd gallwn sicrhau na fydd y genhedlaeth nesaf yn colli eu golwg, eu hyder, na’u cariad at fywyd yn sgîl clefyd macwlaidd.

I gael rhagor o wybodaeth am y datganiad hwn i’r wasg, cysylltwch ag Andrew Gray, swyddog y wasg a chysylltiadau cyhoeddus, y Gymdeithas Facwlaidd ar 01264 326621 neu andrew.gray@macularsociety.org

 

Gellir cysylltu â Gwasanaeth Cymorth wrth Deithio Trafnidiaeth Cymru ar 03330 050 501. Ar agor rhwng 8am a 8pm bob dydd, ar wahân i ddydd Nadolig. Gellir cysylltu â’r gwasanaeth hwn hefyd trwy Destun y Genhedlaeth Nesaf - ffoniwch ein tîm Passenger Assist drwy'r gwasanaeth Text Relay ar 18001 03330 050 501.

Gellir trefnu i brynu tocynnau, neilltuo seddau (pan fydd hynny ar gael) a chael cymorth wrth deithio waeth pwy yw’r cwmni trên.