- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
16 Awst 2019
Mae Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol rheilffordd Calon Cymru wedi derbyn achrediad swyddogol gan yr Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru.
Yn dilyn yn dynn ar sodlau Rheilffordd y Cambrian, mae Cwmni Datblygu Calon Cymru newydd dderbyn y meincnod ansawdd newydd hwn - dim ond yr ail gwmni yn y DU i wneud hynny.
Caiff yr achrediad ei reoli gan Gymdeithas y Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol (ACoRP) ar ran yr Adran Drafnidiaeth.
Mae’r achrediad yn edrych ar bob agwedd ar y bartneriaeth, o’i pholisïau a’i gweithdrefnau i’w chynllun busnes yn y dyfodol a sut mae’n buddsoddi ei chyllid gan Trafnidiaeth Cymru. Mae hefyd yn dangos bod y Cwmni Datblygu’n rhedeg y Bartneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol fel sefydliad cyfrifol.
Mae’r bartneriaeth wedi cyflawni nifer o bethau pwysig wrth hyrwyddo’r rheilffordd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf drwy greu llwybr cerdded Calon Cymru, dathlu 150 mlynedd ers sefydlu’r rheilffordd a datblygu'r caffi yng ngorsaf Llanymddyfri.
“Mae derbyn y meincnod ansawdd hwn yn newyddion gwych i ni,” meddai Lisa Denison, Rheolwr Datblygu’r Bartneriaeth.
“Bydd yn ein galluogi i wneud cais am arian ACoRP ac mae hefyd yn golygu bod gennym ni lais cryfach wrth weithio gyda phartneriaid rheilffyrdd i ddylanwadu ar newidiadau o ran darparu gwasanaethau, fel llunio amserlenni, prisiau tocynnau neu ddatblygu gorsafoedd.
“Mae twristiaeth rheilffyrdd yn faes twf mawr i ni. Er enghraifft, rydyn ni wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y teithwyr ac ymholiadau ers lansio rhan olaf y llwybr cerdded.
“Rydyn ni’n datblygu cynlluniau newydd, sy’n cysylltu’r rheilffordd â chynlluniau adfywio economaidd lleol a datblygu trafnidiaeth gynaliadwy. Mae gennym ni rôl bwysig i’w chwarae mewn cymunedau lleol, o gefnogi prosiectau cyflogaeth i greu mentrau a chysylltu busnesau ar draws ardal ddaearyddol eang a’r gobaith yw y bydd yr achrediad yn cryfhau ein llais yn lleol ac yn genedlaethol”.
Mae’r bartneriaeth wedi bodoli ers nifer o flynyddoedd a chafodd ei strwythuro’n ffurfiol fel Cwmni Datblygu dros 10 mlynedd yn ôl mewn ymdrech gymunedol i arbed ac adnewyddu adeilad yr orsaf yn Llanymddyfri. Ar ôl cyflawni hynny, cafodd yr adeilad ei roi ar brydles i Gyfeillion gorsaf Llanymddyfri sydd wedi rhedeg caffi yno ers iddo ailagor yn 2011.
Ers hynny, mae hefyd wedi creu canolfan gymunedol yn Llandeilo ac wedi dathlu pen-blwydd y rheilffordd yn 150 oed, pan deithiodd Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Charles a Duges Cernyw ar y rheilffordd y llynedd.
Mae llwybr cerdded Rheilffordd Calon Cymru yn cynnwys 16 o lwybrau gwahanol rhwng gorsafoedd sy’n ymarferol o safbwynt cwrdd â threnau cysylltiol.
Cafodd ei ddatblygu gan Grŵp Llywio Llwybr Rheilffordd Calon Cymru sydd bellach yn ei reoli. Gweithiodd y Grŵp Llywio hwn gydag awdurdodau lleol ac asiantaethau am ddwy flynedd yn ddiflino i agor y llwybr ar gyfer cerddwyr pellter hir. Cafodd llyfr cerdded a ysgrifennwyd gan yr Athro Les Lumsdon, sy’n rhestru’r holl lwybrau cerdded, ei gyhoeddi ym mis Mawrth ac mae’n gwerthu’n dda.
Mae copïau ar gael drwy https://kittiwake-books.co.uk/ ac fe’u gwerthwyd hefyd yn ystod Sioe Frenhinol Cymru.
Agorodd y llwybr cerdded yn llawn yn gynharach eleni yn Llandrindod ac mae’n cynnwys 141 milltir o lwybrau cerdded ar draws Sir Gaerfyrddin, Powys a Swydd Amwythig.