Skip to main content

Wales’ Cambrian Line named one of the world’s most scenic railways

09 Awst 2019

Mae Lein y Cambrian wedi ei dewis i ymddangos mewn dwy raglen ddogfen ar gyfer y teledu sy’n rhoi sylw i deithiau rheilffordd mwyaf golygfaol y byd, yn ôl cyhoeddiad gan Trafnidiaeth Cymru.

Mae’r darlledwr, sef Channel 5, wedi cadarnhau y bydd Lein y Cambrian yn derbyn y teitl disglair o gael ei henwi’n un o reilffyrdd mwyaf golygfaol y byd, pan fydd yn darlledu pennod awr o hyd am y rheilffordd fel rhan o gyfres o’r enw ‘Railway’.

Yn ogystal â hyn, mae’r darlledwr o’r Almaen, SWS, wedi ffilmio pennod arbennig ar gyfer y gyfres ‘Eisenbahn-Romantik’ ar hyd Lein y Cambrian, i ddathlu’r cymunedau bywiog ar hyd y daith a harddwch yr ardal naturiol oddi amgylch.

Mae amrywiaeth unigryw o olygfeydd ar hyd y rheilffordd 120-milltir ac mae’n pasio tirwedd ddramatig Canolbarth Cymru, cyn mynd yn ei blaen ar hyd arfordir y Gogledd Orllewin, gan gynnig golygfeydd rhyfeddol o safleoedd treftadaeth y byd, traethau sydd heb eu difetha a mynyddoedd Eryri.

Mae llinell y Cambrian yn chwarae rhan bwysig yn economi lleol canolbarth Cymru, gan helpu i ddenu miloedd o deithwyr ychwanegol bob blwyddyn i’r ardal (206,000 yn 2005 o gymharu gyda 462,000 yn 2019). Gobeithir y bydd y ddwy raglen ddogfen yn sicrhau bod y rheilffordd yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd o’r DU ac Ewrop, gan annog rhagor i dwristiaeth i Ganolbarth Cymru a thu hwnt.

TfW Class 158

Meddai Claire Williams, Swyddog Datblygu Partneriaeth ar gyfer Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian: “Mae’n wych, ond nid yn syndod bod y ddwy raglen ddogfen hon wedi dewis rhoi sylw i Lein y Cambrian.

“Mae hi wir yn un o’r teithiau rheilffordd mwyaf hardd yn y byd a bydd cael ei gweld gan filiynau o bobl, nid ym Mhrydain yn unig ond yn yr Almaen hefyd, yn hwb anferth, gobeithio, i’n heconomi lleol.

“Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw’r Lein i’n holl gymunedau gan ei bod yn rhoi mynediad i gyflogaeth ac addysg ac mae’n denu twristiaid.

“Fel Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol, byddwn yn parhau i weithio i wella’r Lein hyd yn oed yn fwy wrth i ni symud ymlaen.”

Ychwanegodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Profiad Cwsmeriaid ar gyfer Trafnidiaeth Cymru: “Mae Lein y Cambrian yn brofiad rheilffordd unigryw a rhyfeddol ac rydym wrth ein bodd o weld bod y rhaglenni dogfen hyn wedi ei dewis fel un o deithiau mwyaf golygfaol y byd. Bydd y sylw hwn yn sicrhau bod Lein y Cambrian yn cael ei gweld gan gynulleidfaoedd ehangach, nid yn unig ym Mhrydain ond yn yr Almaen hefyd.

“Mae twristiaeth yn cyfrannu’n sylweddol at gymunedau ar hyd Lein y Cambrian ac mae’r rheilffordd yn chwarae rhan hanfodol ym mhrofiad cyffredinol yr ymwelwyr. Bydd y rhaglenni dogfen hyn nid yn unig yn rhoi’r gydnabyddiaeth y mae Lein y Cambrian yn ei haeddu ond fe fyddan nhw hefyd, gobeithio, yn dangos pa mor bwysig yw hi i gymunedau lleol ac yn annog pobl i ymweld â’r ardaloedd trawiadol tu hwnt ar hyd y daith.”  

Am ragor o wybodaeth am Wasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru, ewch i trc.cymru 

Nodiadau i olygyddion


Credyd llun: The Cambrian Railway Partnership

Gwybodaeth am Wasanaethau Trafnidiaeth Cymru

  • Mae rhwydwaith rheilffordd Trafnidiaeth Cymru’n ymestyn trwy Gymru a siroedd y gororau yn Lloegr, gan ddarparu gwasanaethau yn lleol a phell i gyrchfannau mawr fel Abertawe, Caerdydd, Casnewydd, Birmingham, Caer a Manceinion.  
  • Am ragor o wybodaeth ar Trafnidiaeth Cymru, ewch i trc.cymru.