- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
16 Maw 2020
SYSTEM fideo arloesol a fydd yn gwella perfformiad yn aruthrol ar y rheilffyrdd yng Nghymru a’r Gororau.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ffurfio partneriaeth gyda One Big Circle Ltd i osod camerâu clyfar ar drenau i recordio, dadansoddi a rhoi gwybod yn awtomatig am risgiau llystyfiant ar lwybrau Cymru a’r Gororau..
Hwn fydd y tro cyntaf i dechnoleg gael ei defnyddio fel hyn yn y diwydiant rheilffordd.
Mae’r system Adolygiad Fideo Clyfar Awtomataidd (AIVR) yn ddyfais ysgafn a osodir y tu mewn i ffenestr flaen cab y trên ac mae’n casglu data fideo a thelemetreg o fath arall yn awtomatig wrth i’r trên deithio ar y rhwydwaith.
Y bwriad yw mesur newidiadau yn y seilwaith bob tro mae trên yn mynd ar hyd y llwybr, ac am fod llystyfiant yn newid yn naturiol gellir cadw llygaid arno drwy fap gwres rhybudd cynnar a ddefnyddir i ddyrannu adnoddau. Fel hyn, gall dail sydd wedi disgyn, signalau a thwf gormodol gael eu rheoli’n rhagweithiol, heb fod angen rhoi pobl ar y cledrau. Mewn tywydd gwael, petai coeden wedi’i difrodi gan wyntoedd eithriadol o gryf a’i bod yn goleddfu yn fwy na’r arfer tuag at y cledrau neu am atal y gyrrwr rhag gweld y signalau, byddai’r system yn codi hyn ac yn rhoi gwybod i’r tîm rheoli, cyn i hyn ddigwydd.
Mae’r data, fydd yn cael ei gasglu drwy gydol y tymhorau, yn cael ei drosglwyddo ar unwaith drwy 4G, a gellir cael mynediad diogel ato drwy’r cwmwl. Gellir edrych ar y fideo ar unwaith a’i rannu â grwpiau a thimau ymateb allweddol yn TrC a’n partneriaid yn Network Rail.
Dywedodd Rick Fisher, Rheolwr Cynllunio Tymhorol Trafnidiaeth Cymru:
“Mae ein gwasanaethau’n rhedeg dros fwy na 1,000 milltir o gledrau, felly mae’n hanfodol ein bod yn cael gwybod am newidiadau i’r amgylchedd er mwyn cynnal rheilffordd ddiogel a dibynadwy i'n cwsmeriaid.
“Mae’r dechnoleg hon yn gam enfawr ymlaen i ni a bydd yn ein galluogi i weithio’n agos gyda’n partneriaid yn Network Rail i ddelio â heriau wrth iddyn nhw godi.”
Dywedodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Sicrwydd TrC: “Gwelsom y dechnoleg hon am y tro cyntaf ym mis Medi, ac fe gafodd gymaint o argraff arnom fel ein bod wedi comisiynu treial ar bob llwybr.
“TrC yw’r gweithredwr trên cyntaf yn y DU i ddefnyddio’r system AIVR ar ei lwybrau ac rydym yn falch o fod ar flaen y gad o ran defnyddio’r dechnoleg arloesol hon. Gyda’r cyfrifoldeb dros reoli seilwaith Llinellau Craidd y Cymoedd yn cael ei drosglwyddo i TrC maes o law, rydym wir yn credu y gallai hyn wneud gwahaniaeth mawr i’r ffordd rydym yn ymateb, a bydd hynny’n arwain at fanteision sylweddol i’n cwsmeriaid.”
Mae One Big Circle yn dîm o beirianyddion meddalwedd a chaledwedd, ac maen nhw’n arbenigo mewn fideo digidol. Wedi’u lleoli yn Sied Beiriannau eiconig Brunel yng ngorsaf Bryste Temple Meads, mae ganddyn nhw fwy na 30 mlynedd o brofiad mewn systemau fideo, gwaith integreiddio a dadansoddi gan weithio gydag ystod o ddiwydiannau. Maen nhw wedi gweithio’n helaeth ym maes chwaraeon ac wedi galluogi ail-ddangos fideos o ddigwyddiadau chwaraeon yn syth, a hynny ar bob lefel o lawr gwlad i broffesiynol.
Dywedodd Emily Kent, Cyfarwyddwr One Big Circle:
“Mae’n bleser mawr gennym weithio gyda Thrafnidiaeth Cymru. Roedden nhw wedi gweld yn fuan y manteision y gallai AIVR ddod i weithrediadau’r rhwydwaith, ac mae eu ffordd gydweithredol ac agored o weithio yn golygu ein bod ni wedi symud yn gyflym o’r cam treialu i gael AIVR ar y trenau yn ffurfiol. Mae hyn yn dangos yn glir uchelgais TrC i harneisio technolegau arloesol i helpu i gwrdd â’u heriau, ac rydym wrth ein boddau’n cael cyflwyno’r system fideo arloesol hon yn ogystal ag edrych ar ragor o syniadau gyda nhw”
Nodiadau i olygyddion
Nodiadau i Olygyddion:
Roedd OBC wedi arddangos y dechnoleg AIVR yn nigwyddiad y Grŵp Arloesi Rheilffyrdd ym Mryste ym mis Medi 2019. Yn dilyn hynny, estynnodd TrC wahoddiad i OBC ddod i un o’i Weithgorau er mwyn iddyn nhw gael deall mwy am yr hyn mae’r dechnoleg yn gallu ei wneud. Cytunwyd ar gyfnod prawf o bedair wythnos, ac yn ystod y cyfnod hwnnw defnyddiwyd dwy uned AIVR ac fe gawsant eu symud o amgylch y rhwydwaith i sicrhau eu bod yn edrych ar bob llwybr. Y canlyniad oedd map o rwydwaith cyfan TrC ynghyd â lluniau diweddar o’r amgylchedd ar ochrau’r cledrau.
Yn dilyn y cyfnod prawf llwyddiannus, mae TrC ac OBC wedi cytuno ar gontract i ddefnyddio AIVR i gasglu lluniau drwy gydol y tymhorau i adolygu’r llystyfiant ac ymgymryd â chymariaethau tymhorol; bydd modd defnyddio’r data fideo hwnnw i adeiladu model Dysgu Peirianyddol a fydd yn edrych ar gyflwr llystyfiant ac yn tynnu sylw at y mannau sydd angen sylw. Bydd y data yn cael ei gasglu yn ystod y tymhorau gwahanol er mwyn gallu ymgymryd â chynllunio tymhorol a rheoli llystyfiant, a bydd yn cael ei ddefnyddio ar y cyd â Network Rail. TrC yw’r cwmni trên cyntaf yn y DU i ddefnyddio’r system AIVR ar ei lwybrau ac mae ar flaen y gad o ran defnyddio’r dechnoleg arloesol hon.