- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
11 Maw 2020
Gall Trafnidiaeth Cymru gadarnhau fod system wybodaeth Gymraeg wedi cael ei gosod mewn mwy na 170 o orsafoedd Cymru.
Amazon ac IVONA sy’n berchen ar y dechnoleg newydd o’r enw “Geraint” ac mae’n gallu darparu cyhoeddiadau teithio Cymraeg a newidiadau munud olaf.
Mae TrC yn gweithio ar ddatblygu system drafnidiaeth ddwyieithog i gwsmeriaid yng Nghymru.
Dywedodd Gweirydd Davies, Pennaeth Strategaeth Gymraeg Trafnidiaeth Cymru:
“Mae creu system drafnidiaeth ddwyieithog yn flaenoriaeth i ni yn TrC ac rydyn ni’n gweithio gyda Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i wneud yn siŵr ein bod ni’n cyflawni ein nodau.
“Bydd “Geraint” yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg.
“Doedd yr hen dechnoleg ddim yn addas i’r diben o ran y Gymraeg, felly roedd yn rhaid i ni ganfod ateb newydd a’i ddatblygu ein hunain.
“Mae’n gam yn y cyfeiriad cywir o ran gwneud ein rhwydwaith yn ddwyieithog ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddatblygiadau tebyg o ran ein systemau cyhoeddiadau ar drenau.”
Mae 222 o orsafoedd yng Nghymru, ond ar ddechrau taith TrC, dim ond chwarter y rhain oedd â system oedd yn gweithio i’r Gymraeg. Roedd gan y gweddill hen system testun-i-lais oedd yn cael trafferth ynganu’r Gymraeg.
Mae’r system newydd yn gadael i reolwyr gwybodaeth Trafnidiaeth Cymru roi’r wybodaeth ddwyieithog ddiweddaraf i gwsmeriaid a hynny wrth i unrhyw beth newid.
Cafodd ei dreialu ym Mhorthmadog, Ystâd Trefforest, Sgiwen, Hengoed a Phont-y-clun ddiwedd y llynedd cyn cael ei gyflwyno’n llawn ym mis Ionawr, mis Chwefror a mis Mawrth.
Mae 171 o orsafoedd yn elwa o’r buddsoddiad hwn.