- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
13 Ion 2020
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dechrau gweithio ar yr orsaf reilffordd £8 miliwn newydd yn Bow Street yng Ngheredigion.
Bydd yr orsaf, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Adran Drafnidiaeth, yn agor i deithwyr yn 2020, a bydd yn cynnwys cyfleusterau parcio a theithio, mannau storio beics a chyfnewidfa drafnidiaeth aml-foddol. TrC, Network Rail a Chyngor Sir Ceredigion sy'n cyflwyno’r cynllun.
Mae’r orsaf newydd wedi’i hariannu'n rhannol gan yr Adran Drafnidiaeth drwy’r Gronfa Gorsafoedd Newydd, a bydd yn cynnig cysylltiad â’r rhwydwaith rheilffordd genedlaethol i gymuned Bow Street am y tro cyntaf ers i’r hen orsaf gael ei chau yn 1965. Bydd yn trawsnewid trafnidiaeth i drigolion yr ardal, ac yn cynnig cysylltiadau ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth ac addysgol. Drwy gynnig ffordd arall o deithio, bydd hefyd yn helpu i leihau tagfeydd ar y ffyrdd lleol, gan gefnogi’r agenda cynaliadwyedd.
Mae’r orsaf wedi'i lleoli’n agos at y Campws Arloesi ac Ymchwil y DU sy’n cael ei ddatblygu gan Brifysgol Aberystwyth, felly bydd yn darparu mynediad rhwng y safle a phrif gampws y Brifysgol yn Aberystwyth ei hun.
Trenau ar Lein y Cambrian rhwng Aberystwyth ac Amwythig fydd yn defnyddio’r orsaf, a hwn fydd y cyntaf o blith nifer o welliannau i wasanaethau ar y lein fel rhan o waith TrC i drawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r Gororau.
Bydd Bow Street yn elwa o gyflwyno trenau newydd sbon a gwasanaeth bob awr o ddydd Llun i ddydd Gwener o 2022, a bydd gorsafoedd eraill ar hyd y lein yn elwa o fuddsoddiad fel rhan o Weledigaeth Gwella Gorsafoedd £194 miliwn TrC.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:
“Mae ein gweledigaeth ar gyfer y rheilffyrdd yn cynnwys agor gorsafoedd newydd a gwella cysylltedd ar draws pob rhanbarth yng Nghymru. Dyma gam cyntaf cyflawni’r uchelgais honno. Bydd Gorsaf Bow Street yn gwella cysylltiadau at gyfleusterau cyflogaeth, busnes, addysg a hamdden yng Nghanolbarth Cymru.
“Rydym wedi bod yn glir am yr angen i Lywodraeth y DU fuddsoddi mwy, felly rydym yn croesawu’r cyllid hwn gan yr Adran Drafnidiaeth, sy’n sefyll ochr yn ochr â’n cyllid ni. Edrychwn ymlaen at weithio mwy ar y cyd a chael mwy o gyllid gan Lywodraeth y DU, sy’n gyfrifol am seilwaith rheilffyrdd o dan y setliad datganoli cyfredol, i wella seilwaith rheilffyrdd ym mhob rhan o Gymru.”
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
“Rwy’n falch iawn fod gwaith wedi dechrau ar yr orsaf newydd yn Bow Street am ei fod yn rhan bwysig o’n cynlluniau i drawsnewid trafnidiaeth ledled Cymru.
“Hon yw’r orsaf gyntaf i ni ei hadeiladu ers i ni ymgymryd â’r gwaith o redeg gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a’r Gororau, ac rydym wedi ymrwymo i ymgymryd ag o leiaf pum cynllun arall, sy’n dangos ein hymrwymiad i fuddsoddi mewn cysylltu cymunedau ledled Cymru â’r rhwydwaith rheilffyrdd.”
Dywedodd Claire Williams, Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol:
“Bydd prosiect Cyfnewidfa Bow Street yn golygu bod y rheilffordd yn fwy hygyrch i deithwyr ledled y sir a bydd yn lleihau’r tagfeydd ar ffyrdd yr ardal, a bydd hynny’n lleihau allyriadau carbon sydd wrth gwrs yn llawer iawn gwell i’r amgylchedd. Mae Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian yn falch o fod yn rhan o’r prosiect hwn ers ei sefydlu, ac mae’n edrych ymlaen at yr agoriad yn nes ymlaen yn y flwyddyn.”
Nodiadau i olygyddion
Dyfyniadau Ychwanegol
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, Aelod Cabinet Cyngor Ceredigion ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghyd â Thai:
“Mae adeiladu’r cyfleuster Cyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus newydd yn Bow Street yn cyd-fynd yn glir â phob un o’r pedair blaenoriaeth strategol a nodwyd gan Gyngor Sir Ceredigion. Nod y rhain yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol ar gyfer dinasyddion Ceredigion ac mae’r cynllun yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yn barod gan y cyngor i ddarparu mynediad mwy cynaliadwy i Aberystwyth a thu hwnt.”
Dywedodd y Cynghorydd Paul Hinge:
“Bydd y cynllun aml-foddol hwn yn helpu i wella cyfleoedd cyflogaeth yma yng ngogledd Ceredigion ac yn cynnig cyfleuster Teithio Llesol y mae angen mawr amdano sy’n tynnu cerbydau oddi ar y ffyrdd prysur i mewn i Aberystwyth ac yn ein helpu i leihau’r allyriadau carbon yn ein rhan ni o’r byd.
“I mi, mae Cyfnewidfa Drafnidiaeth Bow Street yn benllanw blynyddoedd o waith caled gyda nifer o bartneriaid a’r gymuned gyfan i adfer cyfleuster sy’n hanfodol i ni yma ar arfordir gorllewin Cymru. Rhaid i mi ddiolch i bawb sydd wedi helpu i baratoi’r cais, ac i’r cyrff ariannu amrywiol sydd wedi cytuno ei bod hi’n werth buddsoddi yn ein cynllun busnes.”