Skip to main content

Transport for Wales renew over half million bus passes

14 Ion 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi eu bod wedi adnewyddu dros hanner miliwn o gardiau bws rhatach.

Yn ystod y misoedd diwethaf mae Trafnidiaeth Cymru, ar ran Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, wedi bod yn rheoli'r rhaglen ailgyhoeddi er mwyn darparu Cardiau Teithio Rhatach newydd i bobl anabl a dros 60 oed.

Dyddiad dod i ben gwreiddiol y cardiau oedd Rhagfyr 2019, ond fe wnaeth TrC gyhoeddi cyfnod gras ym mis Rhagfyr ac mae’n awr yn annog pobl i wneud cais am eu cerdyn newydd cyn y dyddiad cau ar y 29 Chwefror.

Mae ffigurau diweddar yn dangos bod 67% o’r holl ddeiliaid cardiau gweithredol presennol wedi gwneud cais i adnewyddu eu cardiau ar-lein a bod 83% o ddefnyddwyr cardiau yn y 12 mis diwethaf wedi gwneud cais ar-lein hefyd.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

“Mae hon yn garreg filltir bwysig ac yn un sy’n dangos graddfa'r gwaith sydd wedi cael ei wneud hyd yma. Mae’r cyfnod gras yn parhau ac unwaith eto, hoffwn annog unrhyw un sydd heb adnewyddu ei gerdyn i wneud cais am gerdyn newydd er mwyn sicrhau eich bod yn gallu cael budd o’r cerdyn bws yn y tymor hir.”

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Mae’n wych ein bod ni wedi adnewyddu dros hanner miliwn o gardiau bws a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gwneud cais hyd yn hyn.  Mae ein ffigurau’n dangos ein bod yn gwneud cynnydd da yn ein rhaglen adnewyddu, fodd bynnag, os nad ydych wedi gwneud cais eto, gwnewch hynny cyn y dyddiad cau ar 29 Chwefror .

Mae’n hawdd gwneud cais ar-lein.  Mae’n cymryd tua 10 munud yma www.trc.cymru/cardiauteithio.  Mae copïau caled o'r ffurflenni cais ar gael gan gynghorau lleol neu drwy ffonio 0300 303 4240.