English icon English

Y Gweinidog Trafnidiaeth yn annog y Gogledd i uno yn erbyn cynlluniau i wanhau gwasanaethau trên

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd, Ken Skates, yn galw ar arweinwyr cymunedol y Gogledd i gefnogi’i wrthwynebiad i gynlluniau, a allai pe baen nhw’n cael eu dewis, fod yn andwyol i brofiad cymudwyr y rhanbarth ac i gysylltiadau trawsffiniol.

Mae’r Manchester Recovery Task Force (MRTF) wedi dechrau ymgynghoriad fydd yn para tan 10 Mawrth fydd yn cynnig tri opsiwn i newid gwasanaethau teithwyr a nwyddau fel rhan o ymgais i wella perfformiad y rhwydwaith rheilffyrdd yn ardal Manceinion.

Mae’r tri opsiwn ar gyfer newid yn yr ymgynghoriad yn cael effaith uniongyrchol ar wasanaeth Trafnidiaeth Cymru rhwng y Gogledd a Manceinion.

  • Opsiwn A – cynnig i ailgyfeirio’r gwasanaethau rhwng y Gogledd a Manceinion i orsafoedd Manceinion Victoria a Stalybridge, gan ddod â’r gwasanaethau uniongyrchol rhwng y Gogledd a Maes Awyr Manceinion i ben, a pheidio â galw yng ngorsafoedd Manceinion Piccadilly ac Oxford Road
  • Opsiwn B – yn cadw’r gwasanaethau cyfredol rhwng y Gogledd a Maes Awyr Manceinion/Manceinion Piccadilly.
  • Opsiwn C – ailgyfeirio’r gwasanaethau rhwng y Gogledd a Manceinion ar hyd ‘Lein Canol Swydd Gaer’. Byddai hynny’n dod â gwasanaethau uniongyrchol rhwng y Gogledd a Maes Awyr Manceinion i ben, gyda’r gwasanaeth yn galw yn y gorsafoedd canlynol yn unig i’r dwyrain o Gaer: Northwich, Knutsford, Altringham a Manceinion Piccadilly.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi trafod â thîm yr MRTF ac yn deall y byddai Opsiynau A ac C yn ychwanegu at amser y daith i deithwyr rhwng y Gogledd a Maes Awyr Manceinion ac yn debygol o arwain at waethygu’r perfformiad i gymudwyr y Gogledd. 

Yn ei lythyr, dywedodd Ken Skates:

“Rwy’n poeni bod yr ymgynghoriad yn canolbwyntio’n llwyr ar ymdrin â symptomau’r ffaith nad yw’r seilwaith rheilffyrdd yn ardal Manceinion yn cynnal lefel ac ansawdd y gwasanaethau sydd eu hangen ar deithwyr yng Nghymru a thu hwnt, hynny yn hytrach na mynd i’r afael â gwreiddyn problemau’r seilwaith.

“Unig ganlyniad derbyniol yr ymgynghoriad hwn i Gymru yw cadw gwasanaethau uniongyrchol Trafnidiaeth Cymru i Faes Awyr Manceinion, fel y’u gwelir yn Opsiwn B.

Mae’n bwysig iawn fod yr holl randdeiliaid yn y Gogledd yn gwybod am yr ymgynghoriad hwn, a’u bod yn mynegi’r farn bod yn rhaid i’r Gogledd gadw ei gysylltiadau uniongyrchol â Maes Awyr Manceinion a Manceinion Piccadilly. Os ydy cysylltedd a ‘lefelu i fyny’ i olygu mwy na geiriau, dyma’r unig opsiwn posibl.”