- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
07 Chw 2020
MAE ap newydd i helpu cwsmeriaid o’r gymuned fyddar i gyfathrebu wedi cael ei lansio ar rwydwaith Trafnidiaeth Cymru yr wythnos yma
Mae’r ap, sef "Interpreter Now", yn defnyddio system math fideoalwad i sicrhau ei bod hi hyd yn oed yn haws i weithwyr rheilffordd a chwsmeriaid byddar gyfathrebu â’i gilydd.
Gall cwsmeriaid lwytho’r ap i lawr am ddim ac arwyddo gyda dehonglwyr drwy alwad fideo ar yr ap, a bydd y dehonglydd yn cyfleu ymholiad y cwsmer i aelod o staff TrC.
Wedyn, bydd y dehonglydd yn gallu cyfleu'r ateb i’r cwsmer drwy arwyddo.
Mae’r ap eisoes yn llwyddiannus ar rwydwaith Scot Rail, ond Trafnidiaeth Cymru yw’r gweithredwr trafnidiaeth cyntaf i gyflwyno’r math yma o dechnoleg yng Nghymru.
Dywedodd Dr Robert Gravelle, Rheolwr Hygyrchedd a Chynhwysiant Trafnidiaeth Cymru: “Rydyn ni’n falch iawn mai ni yw’r darparwr trafnidiaeth cyntaf yng Nghymru i ddarparu cymorth o’r fath i'r gymuned fyddar sy’n defnyddio BSL.
"Mae pob cwsmer ar ein rhwydwaith yn bwysig, ac os oes technoleg yn bodoli i wneud eu bywydau’n haws, y peth amlwg i’w wneud yw defnyddio’r dechnoleg honno.
“Rydw i’n edrych ymlaen at weld yr ap newydd yma’n mynd â ni gam yn nes at ddarparu teithiau cwbl hygyrch i’n holl gwsmeriaid.”
Yr wythnos hon, lansiwyd yr ap yn swyddogol mewn partneriaeth â Chanolfan Caerdydd i Bobl Fyddar, a gwahoddwyd yr aelodau i’w roi ar brawf ar daith fer.
Ac roedd yr ap wedi plesio’r aelodau yn fawr.
Edward Jenkins BEM a Is-Ganghellor Cymuned Fyddar Caerdydd siarad:
"Bydd y dyfais yma, sy’n cynorthwyo cyfathrebu a gall ddefnyddiwr gael fynediad hawdd iddo yn anghygoel i aelod o’r gymuned fuddarol ac yn agor drysau ni fyddai o fewn cyrraedd fel arall.
"Mae’r gallu i gyrraedd yr orsaf a siarad gyda pherson, y gallu i ofyn yn union am yr hyn sydd angen, mewn ffordd syml ac effeithiol, yn anghygoel .
Datblygwyd yr ap gan Interpreter Now, ac mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â nhw ar y prosiect hwn."
Jonathan Bowman, aelod o’r gymuned fyddar a dreialodd yr ap yn orsaf Caerdydd Canolog:
"Mae’n anhygoel peidio gorfod ysgrifennu manylion i lawr o hyd, sy’n broses llafarus fel arfer. Mae’r broses o fynd i’r swyddfa docynnau wedi bod yn anodd i mi, oherwydd yr elfen cyfathrebu, ac oherwydd yr ap, mi fydd hi’n broses llawer haws.
"Rwy’n edrych ymlaen at ymgyfarwyddo a’r ap a’i ddefnyddio yn y dyfodol."
Ychwanegodd Jonathan Colligan, Datblygwr Busnes InterpreterNow: “Mae’r ffaith bod Trafnidiaeth Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd cynhwysiant yn y modd mae’n gweithredu yn dangos bod Cymru’n wlad sydd â diwylliant gwych a chymuned agored.”
Gall cwsmeriaid lwytho ap Interpreter Now i lawr am ddim ar Android neu Ios drwy chwilio am Interpreter Now