Skip to main content

Clean as a whistle! Station deep cleans near completion

27 Ion 2020

Bydd MWY NA 100 o orsafoedd yn cael eu glanhau’n drylwyr rhwng mis Ionawr a mis Mawrth wrth i Trafnidiaeth Cymru fwrw ymlaen â’i Weledigaeth Gwella Gorsafoedd gwerth £194m.

Bydd gorsafoedd ar hyd rheilffyrdd y Cymoedd, ardal Caerdydd, gorllewin Cymru a Calon Cymru yn cael eu glanhau’n drylwyr yn sgil y buddsoddiad hwn er mwyn eu hadfywio a’u tacluso.

Dros yr wythnosau a'r misoedd i ddod, bydd contractwyr wrthi'n brysur yn glanhau pontydd troed, cysgodfeydd, dodrefn gorsafoedd, ffensys, goleuadau a meysydd parcio.

Erbyn diwedd y cyfnod glanhau diweddaraf hwn, bydd pob un o'r 247 gorsaf y mae Trafnidiaeth Cymru’n gyfrifol amdanynt yng Nghymru a Lloegr fel pin mewn papur.

Dywedodd Uwch Reolwr Prosiectau Trafnidiaeth Cymru, Catherine Sweeney: "Rydyn ni'n gwybod y gwahaniaeth enfawr y mae glanhau trylwyr yn gallu ei wneud i orsaf.  Mae'r gorsafoedd hyn yn fynedfeydd allweddol i’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ac rydym yn benderfynol o’u cael yn edrych ar eu gorau.

Mae’r gwaith glanhau rydyn ni eisoes wedi'i wneud wedi gwneud gwahaniaeth amlwg yn barod ac rydym wedi cael adborth cadarnhaol gan ein cwsmeriaid.

Yn y tymor hwy, ein Gweledigaeth Gwella Gorsafoedd fydd y buddsoddiad mwyaf rydyn ni wedi'i weld ers degawdau yn y gorsafoedd hynny wrth inni weithio gyda’n gilydd i ddarparu’r rheilffordd y mae ein cwsmeriaid yn ei haeddu’.

Ers dechrau'r fasnachfraint ym mis Hydref 2018, mae Trafnidiaeth Cymru wedi glanhau 143 o orsafoedd yn drylwyr. Dyma drydedd rhan y rhaglen honno, a'r olaf.

Glanhau yn drylwyr yw un o nifer o welliannau allweddol i orsafoedd a gaiff eu cyflawni er budd ein cwsmeriaid o dan y Weledigaeth gwerth £194m.  Dros y pum mlynedd nesaf bydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu cysgodfeydd newydd a seddi gwell, mwy o le i feiciau, arwyddion gwell a gwasanaeth Teledu Cylch Cyfyng gwell. 

Bydd Trafnidiaeth Cymru hefyd yn creu o leiaf 1,500 o leoedd parcio newydd mewn gorsafoedd ac yn cydweithio’n agos ag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i hyrwyddo teithio llesol ac i adeiladu rhwydwaith cludiant cyhoeddus gwell ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol. 

Fel rhan o'r weledigaeth, mae Trafnidiaeth Cymru yn ymrwymo i weithio gyda busnesau bach a chanolig felly rydym yn ail-fuddsoddi yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu er mwyn parhau i roi hwb i economïau lleol.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: “Rwy’n croesawu’r cynnydd yma. Mae gwella golwg ein gorsafoedd yn bwysig, a bydd y Weledigaeth ar gyfer Gwella Gorsafoedd yn cyfrannu at gyflawni’r rhwydwaith trenau yr ydym yn awyddus i’w sicrhau ar gyfer Cymru a’r Gororau. Mae’n rhan o’n cyfres uchelgeisiol o waith diwygio a fydd yn sicrhau bod disgwyliadau pobl ynghylch ein rhwydwaith trenau wrth wraidd y gwaith trawsnewid.”

Artist impression of branding at Swansea Station

(Argraff arlunydd o'r ystafelloedd aros yng Ngorsaf Abertawe ar eu newydd wedd)

(Fideo o gyfnod un y rhaglen glanhau trylwyr yn 2019)