English icon English
Senedd outside-2

Cymeradwyo bil i reoli etholiad y Senedd yn ystod y pandemig COVID

Bill to manage Senedd election during covid pandemic approved

Mae Aelodau o’r Senedd wedi cymeradwyo bil brys i sicrhau y gall etholiad nesaf y Senedd ddigwydd yn ddiogel, er gwaetha’r ffaith bod pandemig y coronafeirws yn parhau.

Mae’r Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) yn cyflwyno cyfres o fesurau i’w gwneud yn haws i’r rheini sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig fwrw pleidlais.

Bydd hefyd yn mynd i’r afael â’r risg o gael cyfnod estynedig pan na fyddai’r Senedd yn gallu cyfarfod pe bai’r Senedd yn cael ei diddymu fel yr arfer, ar 7 Ebrill, ac na ellid cynnal yr etholiad ar 6 Mai oherwydd y pandemig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi’i gwneud yn glir y dylid bwrw ymlaen â’r etholiad ar 6 Mai 2021 fel y bwriadwyd. Dylai pawb baratoi ar y sail honno.

Ond mae’r Bil yn ei gwneud yn bosibl gohirio’r diwrnod pleidleisio os bydd y pandemig yn golygu bod y bygythiad i iechyd y cyhoedd a chynnal yr etholiad mor ddifrifol fel na fydd yn ddiogel ei gynnal ar yr adeg honno.

Bydd y Bil yn dod yn ddeddf ar ôl cael y Cydsyniad Brenhinol gan Ei Mawrhydi y Frenhines. Disgwylir i hynny ddigwydd yn yr wythnosau nesaf.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:

“Rwy’n falch bod Aelodau o’r Senedd wedi cymeradwyo’r Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) fel y gall ddod yn ddeddf.

“O ystyried natur anwadal y feirws, mae tipyn o ansicrwydd beth fydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd erbyn mis Mai. Dyna pam rydym wedi gweithredu nawr i ymateb i’r risg bosibl i’r etholiad sy’n deillio o’r pandemig.

“Bydd y Bil y mae Aelodau o’r Senedd wedi’i gymeradwyo heddiw, drwy fwyafrif mawr, yn helpu i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu arfer eu hawl ddemocrataidd i bleidleisio yn yr etholiad, ond eu bod yn gallu gwneud hynny yn ddiogel hefyd.

“Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi’r ymdrechion arbennig sy’n cael eu gwneud gan y staff sy’n cynnal ein hetholiad i sicrhau bod modd gwneud hynny yn ddiogel ddydd Iau 6 Mai.”