- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
08 Rhag 2020
Mae cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru yn cael eu hannog i wirio manylion eu taith a chynllunio ymlaen llaw gydag amserlen newydd yn dod i rym yr wythnos nesaf a gwasanaethau’n debygol o fod yn brysur dros y Nadolig.
Daw’r newid yn amserlen gaeaf y diwydiant rheilffyrdd yn y DU i rym ddydd Sul, 13 Rhagfyr ac ar rwydwaith Trafnidiaeth Cymru bydd nifer o newidiadau i amseroedd gadael er mwyn rhoi mwy o gysondeb i gwsmeriaid wrth symud ymlaen.
Dros y Nadolig, bydd y gwasanaethau’n rhedeg tan nos Iau, 24 Rhagfyr ac fel sy’n arferol, ni fydd gwasanaeth ar Ddydd Nadolig na Gŵyl San Steffan. Bydd y gwasanaethau’n ailddechrau gyda’r amserlen dydd Sul arferol ar 27 Rhagfyr a dylai cwsmeriaid ddisgwyl i’r rhain fod yn brysur.
Cynghorir cwsmeriaid i ystyried opsiynau teithio eraill ar 27 Rhagfyr i sicrhau bod lle ar gael i’r rheini sy’n gwneud teithiau hanfodol.
Mae Network Rail yn gwneud gwaith hanfodol i uwchraddio’r cledrau a’r signalau yn ardal Caerdydd o 27 Rhagfyr tan ddydd 3 Ionawr felly dylai cwsmeriaid sy’n teithio i’r ddinas a thrwyddi ddisgwyl rhai newidiadau i deithiau, trafnidiaeth yn rhedeg ar y ffyrdd yn lle trenau a gwaith addasu posibl ar blatfformau.
Ceir gwaith hefyd ar y llwybr Gorllewinol, a allai effeithio ar deithwyr sy’n teithio o Dde Cymru i Loegr. Bydd llai o drenau’n cael eu darparu i Temple Meads Bryste (rhwng 26 Rhagfyr a 9 Ionawr) tra bydd y to’n cael ei adnewyddu a’r orsaf yn cael ei hailweirio. Bydd yr orsaf yn dal i fod ar agor.
Dylai cwsmeriaid ddefnyddio systemau cynllunio teithio ar wefan Trafnidiaeth Cymru ac Ymholiadau National Rail i sicrhau eu bod yn gwybod beth yw manylion eu taith. Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn darparu gwiriwr capasiti sy’n rhoi syniad i gwsmeriaid pa drenau sydd â digon o le a’r rheini sydd fel arfer yn llawn ar sail patrymau teithio diweddar.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Mae hon wedi bod yn flwyddyn anodd i ni i gyd, a bydd llawer yn croesawu codi’r cyfyngiadau teithio ar gyfer y Nadolig. Ond gallai roi pwysau ychwanegol ar wasanaethau rheilffyrdd, y bydd rhai ohonynt eisoes wedi cael eu lleihau. Helpwch TrC a fydd yn gweithio’n galed i fynd â chi adref yn ddiogel. Cynlluniwch eich taith drwy wirio ymlaen llaw a dewis amseroedd tawel lle bynnag y bo modd, gwisgwch orchudd wyneb a theithio’n gyfrifol.”
Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Wrth i ni godi’r cyfyngiadau teithio, rydyn ni’n rhagweld y bydd mwy o alw ar 23, 24 a 27 Rhagfyr, ond bydd ein timau’n gwneud popeth o fewn eu gallu i gael pobl adref.
“Bydd rhai newidiadau i amseroedd gadael ar yr amserlen newydd o 13 Rhagfyr ymlaen, felly mae’n hanfodol bod cwsmeriaid yn gwirio’r wybodaeth ddiweddaraf am deithio. Efallai y bydd rhai newidiadau byr rybudd i rai gwasanaethau a dylai cwsmeriaid fod yn ymwybodol o’r gwaith gwella rheilffyrdd sydd ar y gweill, defnyddio ein Gwiriwr Capasiti i ddarganfod pa drenau sydd â’r mwyaf o le i gadw pellter cymdeithasol a, lle bo’n bosibl, cadw sedd ar eu trên dewisol yn ogystal â phrynu tocyn ymhell cyn y diwrnod teithio.
“Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn dal yn ffordd ddiogel iawn o deithio ac mae gennym fesurau glanhau a diogelwch ychwanegol ar waith, yn ogystal â thimau ychwanegol ar y rhwydwaith i sicrhau bod pobl yn dilyn y rheolau ac yn gwisgo gorchudd wyneb, oni bai eu bod wedi’u heithrio.”
Wrth siarad am waith peirianneg y Nadolig, dywedodd Bill Kelly, cyfarwyddwr llwybrau Network Rail yng Nghymru: “Mae’r gwaith hwn yn hanfodol i ddod â gwasanaethau rheilffyrdd mwy dibynadwy, cyflymach a gwell i deithwyr i mewn ac allan o Gaerdydd.
“Y Nadolig yw’r amser tawelaf ar y rheilffordd, fel arfer, a dyna pam mae’r gwaith uwchraddio hanfodol hwn wedi cael ei drefnu ar hyn o bryd, gan sicrhau cyn lleied o darfu â phosib.
“Rydyn ni’n annog teithwyr i wirio cyn teithio i wneud eu taith mor esmwyth â phosibl ac rydyn ni’n diolch i bawb am eu hamynedd wrth i ni wneud y gwaith hanfodol hwn.”
Nodiadau i olygyddion
Mae tocynnau teithio ar gael a gall cwsmeriaid ddod o hyd i’r rhai rhataf wrth brynu ar ap TfW Rail ac yn https://trc.cymru/ heb ffioedd archebu na ffioedd cerdyn credyd.
Mae rhagor o wybodaeth am Wiriwr Capasiti TrC ar gael yn https://trc.cymru/statws-gwasanaeth/gwiriwr-capasiti
Bydd gwasanaethau GWR i Lundain, Abertawe a Chaerfyrddin yn gweithredu drwy gydol y cyfnod, ond efallai y bydd amseroedd yn newid. Gwiriwch eich taith cyn teithio ar www.gwr.com ac archebu ymlaen llaw i gadw sedd. I gael cyngor am deithio’n hyderus, mae rhagor o wybodaeth ar gael yn https://www.gwr.com/safety
Bydd Avanti Trains yn parhau i wasanaethu Gogledd Cymru gyda’i amserlen bresennol, sef gwasanaeth dychwelyd uniongyrchol o Gaergybi a Wrecsam i Lundain Euston. Cefnogir y rhain gan wasanaeth gwennol o Crewe, lle gellir gwneud cysylltiadau i ac o wasanaethau i Lundain, Manceinion, Gorllewin Canolbarth Lloegr a’r Alban. Unwaith eto, cofiwch fwrw golwg ar fanylion eich taith cyn teithio.