- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
06 Tach 2020
Bydd Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol newydd yn dechrau gweithio yn Nyffryn Conwy y mis hwn.
Gan weithio i Bartneriaeth Rheilffyrdd Dyffryn Conwy, bydd y swyddog newydd, Karen Williams, yn cydweithio â chymunedau ledled y dyffryn gan gynnwys Llandudno i Flaenau Ffestiniog ac arfordir y Gogledd-orllewin, Cyffordd Llandudno i Gaergybi.
Ers lansio eu Gweledigaeth Rheilffyrdd Cymunedol y llynedd, mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i weithredu rhaglen fuddsoddi mewn cymunedau ledled eu rhwydwaith Cymru a'r Gororau.
Bydd y rôl newydd hon yn cysylltu pobl y Gogledd â'u rheilffordd ac yn sicrhau manteision cymdeithasol ac economaidd, gan ganolbwyntio ar deithio cynaliadwy a hygyrch i drigolion a thwristiaid fel ei gilydd.
Wrth sôn am ei rôl newydd, dywedodd Karen Williams:
“Trwy gysylltu ac annog busnesau a sefydliadau lleol i gydweithio, gallwn helpu'r cymunedau hynny i gydweithio'n well ar bob math o faterion cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda chymunedau ar hyd a lled y rhanbarth."
“Rwyf wedi gweithio yn y gymuned leol ers blynyddoedd lawer, a gyda chwmni Creu Menter ers bron i ddwy flynedd. Dw i'n edrych ymlaen yn fawr iawn at gyflwyno fy mhrofiad a gwybodaeth am gydweithio â sefydliadau allanol i'r rôl hon."
Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhan-ariannu Partneriaeth Rheilffyrdd Dyffryn Conwy er mwyn cyflawni ei gweledigaeth ehangach ar gyfer rheilffyrdd cymunedol. Cynhelir y bartneriaeth gan Creu Menter, menter gymdeithasol sydd wedi ymrwymo i fuddsoddi cymunedau, gwirfoddoli a chyfleoedd cyflogaeth.
Dywedodd Hugh Evans, Pennaeth Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru:
“Mae'n bleser croesawu Karen a Creu Menter i deulu'r Rheilffyrdd Cymunedol. Gwyddom y gall Rheilffyrdd Cymunedol sbarduno newid gwirioneddol er gwell ar draws ein rhwydwaith, gan helpu i sicrhau bod teithio ar y trenau yn fwy hygyrch a chynhwysol, sydd yn ei dro yn creu budd economaidd gwirioneddol ac yn gyfle, yn ystod y cyfnod anodd hwn, i gefnogi iechyd a lles meddyliol pobl ar lawr gwlad."