Skip to main content

Penarth gets Wales’ first electric bike sharing scheme

27 Tach 2020

Gall ymwelwyr â gorsaf Penarth elwa ar gynllun rhannu beiciau trydan cyntaf Cymru.

Mae Trafnidiaeth Cymru a Network Rail wedi ymuno â Chyngor Bro Morgannwg i ddarparu’r cynllun Nextbike y tu allan i’r orsaf.

Mae deg pwynt docio a gwefru e-feiciau wedi’u gosod ar dir yr orsaf, sy’n golygu y gall cwsmeriaid ddod yn syth oddi ar y trên a mynd am dro o gwmpas y dref glan môr hardd gan ddefnyddio cludiant cost isel sy’n arbed ynni ac sy’n rhydd o allyriadau.

Wedi’i ariannu gan Gyngor Bro Morgannwg drwy gyfraniadau trafnidiaeth gynaliadwy Adran 106, mae’r cynllun yn dilyn cyflwyno cynlluniau rhannu beiciau llwyddiannus yng Nghaerdydd ac Abertawe.

Trafnidiaeth Cymru sy’n rheoli’r orsaf, a dywedodd Jay Bryce, Rheolwr Integreiddio Cwsmeriaid, fod y cynllun yn cyd-fynd ag uchelgais y cwmni o wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn wyrddach ac yn fwy cynaliadwy.

Dywedodd: “Mae cynlluniau rhannu beiciau yn ffordd wych o annog pobl i fod yn fwy egnïol a gwneud dewisiadau gwyrddach wrth deithio. Mae beiciau trydan yn cynnig yr holl fanteision iechyd, ond ar yr un pryd yn ei gwneud yn llawer haws i symud a theithio i fyny bryniau.

“Mae cael un o bwyntiau rhannu e-feiciau cyntaf Cymru ym Mhenarth wir yn cefnogi ein hymrwymiad i wneud gorsafoedd yn byrth i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn buddsoddi’n sylweddol yn ein gorsafoedd dros y blynyddoedd nesaf a bydd gweithio mewn partneriaeth â chynghorau lleol a Network Rail yn eu gweld yn dod yn asedau lleol, yn hytrach na dim ond rhywle rydych chi’n dal trên.”

Gyda glan môr hardd, parciau cywrain a stryd fawr yn cynnwys cymysgedd o siopau cenedlaethol ac annibynnol, mae Penarth yn lle gwych i dreulio’r dydd, gyda’r orsaf mewn sefyllfa ddelfrydol i ddarganfod yr ardal.

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gobeithio cyflwyno pwyntiau e-feic ychwanegol o amgylch y sir mewn partneriaeth â Nextbike dros y misoedd nesaf.

Gall cwsmeriaid lawrlwytho ap hawdd ei ddefnyddio o Nextbike sy’n caniatáu iddyn nhw logi beic. Yna gallan nhw ddefnyddio’r beic cyhyd ag y maen nhw’n dymuno cyn ei ddychwelyd i unrhyw orsaf docio Nextbike addas.

Mae COVID-19 wedi arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n cerdded ac yn beicio, a’r gobaith yw y bydd cyflwyno e-feiciau yn annog y defnydd o drafnidiaeth gynaliadwy ymhellach.

Dywed Network Rail, sy’n berchen ar safle’r orsaf, fod y cynllun hefyd yn cyd-fynd â’u strategaeth hirdymor ar gyfer adeiladu rhwydwaith rheilffyrdd cynaliadwy ledled Prydain.

Dywedodd Aled Huxtable, Rheolwr Datblygu Busnes Network Rail yng Nghymru: “Mae hyn yn fuddsoddiad i’w groesawu i’n teithwyr yng ngorsaf Penarth. Gyda’n rhanddeiliaid, ein nod yw gwneud gorsafoedd yn rhan ganolog o bob cymuned, a bydd hyn yn gwneud yn union hynny; drwy wella’r cyfleusterau sydd ar gael i’r gymuned a hyrwyddo ffyrdd cynaliadwy i bobl deithio i ac o’r orsaf bydd yn gwneud Penarth yn lle gwyrddach a mwy pleserus i ymweld ag ef.”

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio gyda Chyngor Dinas Caerdydd i greu system ddi-dor a fydd yn cysylltu’r ddau gynllun. Cyn bo hir, bydd hynny’n caniatáu i ddefnyddwyr deithio rhwng y ddau leoliad a dychwelyd beiciau i’r naill neu’r llall.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Peter King:

“Ar ôl datgan argyfwng hinsawdd yn gynharach eleni, mae’n hanfodol fel Cyngor ein bod yn parhau i gefnogi dulliau trafnidiaeth egnïol a chynaliadwy. Mae’r beiciau’n syml i’w defnyddio ac mae’r tariffau’n tueddu i fod yn rhatach na theithio mewn car, bws neu drên.

“Bydd y fenter o fudd i iechyd a lles ein cymudwyr a’n trigolion, yn ogystal â bod yn gaffaeliad i dwristiaeth yn yr ardal. Os bydd hyn yn llwyddiant, ein gobaith yw gweld y cynllun yn ehangu ymhellach.”

Llwytho i Lawr