Skip to main content

Transport for Wales praised by Children’s Commissioner

20 Tach 2020

Mae Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, wedi canmol addewid Trafnidiaeth Cymru i ddatblygu Siarter Plant a Phobl Ifanc.

I nodi Diwrnod y Plant (dydd Gwener 20 Tachwedd), mae TrC yn dechrau gweithio ar y siarter newydd, a fydd yn ceisio rhoi safbwyntiau pobl ifanc wrth galon ei waith i drawsnewid rhwydwaith trafnidiaeth Cymru.

Bydd yn canolbwyntio ar y rhwystrau traddodiadol sy’n wynebu pobl ifanc sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys cost, diogelwch a mynediad. Mae TrC eisoes wedi cyflwyno rhai buddion, gan gynnwys teithio am ddim i blant dan 11 oed, a thocynnau am ddim i bobl ifanc dan 16 oed yn ystod y cyfnodau tawelach pan fyddant gydag oedolyn sy’n talu am docyn.

Mae’r Athro Sally Holland yn un o nifer o ffigurau amlwg sydd wedi ymuno â phanel cynghori TrC i helpu i arwain a chraffu ar waith y sefydliad.

Dywedodd: “Rwyf wrth fy modd bod Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu Siarter Plant a Phobl Ifanc.

“O'r trafodaethau mae hi’n glir nad siop siarad fydd hwn ond ymdrech go iawn i ddiogelu hawliau plant yn ei holl waith a gwneud y rhwydwaith yn ddiogel ac yn braf i blant a phobl ifanc ar draws Cymru.

“Mae hefyd yn golygu y bydd gan blant a phobl ifanc fwy o lais yn y broses o ddatblygu gwasanaethau yn y dyfodol, a bydd Trafnidiaeth Cymru yn atebol i’r plant sy’n eu defnyddio.

“Mae fy nhîm a minnau’n edrych ymlaen at gefnogi Trafnidiaeth Cymru drwy ei siwrnai hawliau plant.”

Mae TrC newydd benodi Helen Dale a thîm o Swyddogion Ymgysylltu â’r Gymuned i arwain y gwaith o feithrin perthynas gyda chymunedau ar draws Cymru a siroedd y gororau, er mwyn eu rhoi wrth galon y gwaith o siapio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda phlant a phobl ifanc i ddeall eu hanghenion wrth ddefnyddio dulliau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth fel trenau a bysiau, ond hefyd helpu i ddod o hyd i ffyrdd o gynyddu faint o blant a phobl ifanc sy’n teithio drwy gerdded neu feicio. Mae’r sefydliad yn gobeithio cwblhau a chyhoeddi ei siarter Plant a Phobl Ifanc yn ystod gwanwyn 2021.

Dywedodd Helen Dale, Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned Trafnidiaeth Cymru: “Dwi’n edrych ymlaen at ymgysylltu â phlant a phobl ifanc a manteisio ar arbenigedd Sally Holland ac aelodau eraill o’n Panel Cynghori TrC annibynnol i ddatblygu’r siarter.

“Yn ymarferol, mae hyn yn golygu pan fyddwn yn gwella'r system trafnidiaeth gyhoeddus, mae rhai o’r buddion hyn yn cynnwys helpu i wneud Cymru a’r gororau yn lle gwych i bobl ifanc fyw, gweithio, astudio, ffynnu a thyfu eu hannibyniaeth.

“Rydyn ni’n awyddus i glywed gan y rheini sy’n cynrychioli plant a phobl ifanc i ddeall sut gallwn ni greu perthynas â nhw. Boed hynny’n golygu tripiau i brofi pethau a dod yn gyfarwydd â thrafnidiaeth gyhoeddus, cael adborth ar ein gwaith gwella neu gynnal gweithdai ar ddiogelwch ar y rheilffyrdd, rydyn ni eisiau ymgysylltu â phlant a phobl ifanc ynghylch nifer o bethau.”

Nodiadau i olygyddion


Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i’r egwyddorion hawliau plant a nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC).

Yn 2011 Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud yr UNCRC yn rhan o’i chyfraith ddomestig.

Llwytho i Lawr