- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
18 Rhag 2020
Mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i fwrw ymlaen â chynlluniau gweddnewidiol ar gyfer Metro De Cymru ddechrau 2021.
Gan fod disgwyl i nifer y teithwyr fod yn isel oherwydd COVID-19, mae TrC manteisio ar y cyfle i gyflawni rhan fawr o waith seilwaith. I bawb a fydd yn teithio yn ystod y cyfnod tawelach hwn, bydd bysiau yn rhedeg yn lle’r trenau ar gyfer pob gwasanaeth trên i’r gogledd o Radur o ddydd Sul 3 Ionawr tan ddydd Sul 17 Ionawr.
Bydd y cyfnod o 14 diwrnod yn caniatáu i TrC fwrw ymlaen â’i gynlluniau a chyflawni gwaith peirianneg trawsnewidiol pwysig ar gyfer Metro De Cymru.
Bydd bysiau yn lle trenau ar gael ar gyfer gwasanaethau ar reilffyrdd Aberdâr, Merthyr a Threherbert ac rydym yn annog yr holl gwsmeriaid i wirio gwybodaeth ar-lein cyn iddynt deithio. Disgwylir i systemau cynllunio teithiau gael eu diweddaru o 23 Rhagfyr 2020 ymlaen er mwyn caniatáu i deithwyr gynllunio eu teithiau.
Bydd Metro De Cymru yn gwella cysylltedd ledled De Cymru yn sylweddol ac yn sicrhau mynediad at swyddi, hamdden a chyfleoedd eraill i bobl Cymru drwy uno llwybrau teithio i drenau, bysiau a theithio llesol.
Mae prosiect Metro De Cymru wedi ei gyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
“Ddechrau 2020 fe wnaethon ni agor ein Canolfan Metro yn Nhrefforest a dechrau gwaith ar ein depo £100 miliwn yn Ffynnon Taf. Drwy gydol y flwyddyn mae ein timau a’n partneriaid wedi bod yn gweithio’n galed iawn, mewn amgylchiadau anodd, i adeiladu Metro De Cymru.
“Byddwn yn dechrau 2021 gyda cham arall ymlaen yn ein cynlluniau trawsnewidiol. Byddwn yn darparu bysiau yn lle trenau ar gyfer gwasanaethau i’r gogledd o Radur am 14 diwrnod, ar adeg pan fydd y galw’n isel oherwydd COVID-19. Bydd hyn yn galluogi ein timau i fwrw ymlaen â gwaith hanfodol fel rhan o gam nesaf Metro De Cymru.
“Rydym wedi ymrwymo i gynlluniau uchelgeisiol yma yn TrC ac mae’n hanfodol ein bod yn parhau i symud ymlaen gyda’r gwaith o gyflawni hyn.”
“Hoffwn ddiolch i’n holl gwsmeriaid a’n cymdogion rheilffordd am eu hamynedd, ac rwy’n annog unrhyw un sydd angen teithio i gynllunio ymlaen llaw.”
Fel rhan o’r gwaith peirianneg hwn am 14 diwrnod i alluogi cam nesaf Metro De Cymru, bydd TrC yn cyflawni amryw o weithgareddau fel torri llystyfiant, ymchwiliadau tir, arolygon dylunio, gwyro cyfleustodau, gosod llwybrau ceblau, uwchraddio pwyntiau mynediad cledrau, a gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol ar y cledrau.
Nodiadau i olygyddion
Mwy o wybodaeth:
Adeiladu Trenau Trafnidiaeth Cymru newydd: https://newyddion.trc.cymru/newyddion/adeiladu-trenau-trafnidiaeth-cymru-newydd
Gwaith ar gledrau’r Metro yn parhau yn y Cymoedd: https://newyddion.trc.cymru/newyddion/gwaith-ar-gledrau-r-metro-yn-parhau-yn-y-cymoedd