- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
02 Rhag 2020
Bydd pencadlys newydd Trafnidiaeth Cymru wedi’i oleuo’n biws ddydd Iau yma gan gynrychioli Cymru mewn darllediad byd-eang sy’n dathlu cynhwysiant pobl anabl.
Mae #PurpleLightUp yn ymgyrch byd-eang sy’n dathlu ac yn tynnu sylw at gyfraniad economaidd y 386 miliwn o weithwyr anabl ledled y byd.
Eleni, bydd y darllediad byd-eang 24 awr yn dechrau yn Awstralia, yn symud ymlaen i Asia, Affrica ac Ewrop, lle bydd staff TrC yn cyfrannu, ac yna i Dde a Gogledd America.
Mae TrC, fel sefydliad newydd sydd wedi coleddu egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn croesawu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn llawn ac yn ei wreiddio yn niwylliant y gweithle.
Ers cyhoeddi’r Amcanion Cydraddoldeb Strategol ym mis Mehefin 2020, mae TrC wedi sefydlu grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, lle mae cydweithwyr yn cynrychioli elfennau gwahanol o nodweddion gwarchodedig fel aml-ddiwylliant, aml-genhedlaeth, rhywedd, anabledd ac LGBTQ+.
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
“Rydyn ni’n falch iawn ein bod ni’n cefnogi #PurpleLightUp ac yn cydnabod cyfraniad gweithwyr anabl, nid dim ond yma yng Nghymru, ond ledled y byd.
“Mae TrC yn sefydliad cwbl gynhwysol, lle mae pob cydweithiwr yn cael ei drin yn gyfartal gyda pharch, a lle mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu.
“Bydd yn wych gweld ein pencadlys newydd ym Mhontypridd wedi’i oleuo’n biws ar gyfer y dathliad byd-eang hwn gan gynrychioli Cymru fel rhan o’r darllediad byd-eang 24 awr.”
Ychwanegodd Julian John, Rheolwr Gyfarwyddwr Delsion, sy’n gwmni o Ymgynghorwyr Datblygu a Phobl ac yn rhoi pwys mawr ar arloesedd a chynhwysiant:
“Mae #PurpleLightUp yn ymgyrch byd-eang sy’n dathlu’r cyfraniad enfawr y mae pobl anabl yn ei wneud i’r economi ac yn y gweithle.
“Mae Trafnidiaeth Cymru yn sefydliad blaenllaw yng Nghymru ac maent yn cofleidio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn llawn, gan gymryd camau breision i ddangos lefel eu hymrwymiad i ddatblygu diwylliant eu gweithle. Byddant yn goleuo eu Pencadlys ym Mhontypridd ac yn cymryd rhan yn y darllediad byd-eang 24 awr i gyd-ddathlu gyda gweddill y byd.”