- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
09 Tach 2020
Mae Trafnidiaeth Cymru yn lansio Gwiriwr Capasiti, i helpu cwsmeriaid i wirio cyn teithio pa drenau allai fod â’r mwyaf o le er mwyn gallu cadw pellter cymdeithasol yn sgil COVID-19.
Mae’r porth ar-lein newydd ar gael yn www.trc.cymru neu ar ap TfW Rail ac mae’n dangos i gwsmeriaid pan fydd digon o le ar drenau fel arfer, pan fyddant yn weddol brysur neu’n debygol o fod yn llawn, er mwyn iddyn nhw allu cynllunio ymlaen llawn a dewis y gwasanaeth sy’n addas iddyn nhw.
Gan fod y ‘cyfnod atal byr’ wedi dod i ben a’r cyfyngiadau teithio yng Nghymru wedi cael eu dileu, bydd y gwiriwr capasiti yn helpu cwsmeriaid i deithio’n saffach a chadw pellter cymdeithasol ar drenau.
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
“Diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr yw ein prif flaenoriaeth o hyd a bydd y gwiriwr capasiti yn cryfhau ein mesurau diogelwch yn wyneb COVID-19. Gan fod y cyfyngiadau teithio wedi cael eu dileu yng Nghymru, rydw i’n annog pob cwsmer i ddefnyddio’r cyfleuster ar-lein newydd ac i barhau i ddilyn ein cyngor ar deithio’n saffach.
“Mae hefyd yn bwysig bod y cyhoedd yng Nghymru yn deall, er bod cyfyngiadau teithio wedi cael eu dileu yng Nghymru, na chaniateir teithio i lefydd y tu allan i Gymru o hyd oni bai fod esgus rhesymol dros orfod gwneud hynny.”
Ychwanegodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Sicrwydd Trafnidiaeth Cymru:
“Drwy gydol y pandemig, rydyn ni wedi rhoi rhaglen fanwl ar waith i sicrhau diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr, gan gynnwys glanhau ychwanegol a mwy trylwyr, cyfleusterau diheintio dwylo, systemau ciwio, systemau unffordd a threfniadau cadw pellter cymdeithasol.
“Mae’r Gwiriwr Capasiti yn ychwanegiad gwych a fydd yn helpu gyda diogelwch. A fyddai ein holl gwsmeriaid cystal â’i ddefnyddio i helpu i ddewis yr amser mwyaf diogel i deithio”.