Skip to main content

Applications for Transport for Wales’ first Graduate Scheme close soon

21 Ion 2021

Mae Trafnidiaeth Cymru yn chwilio am bum person graddedig uchelgeisiol i fod yn rhan o'i daith i drawsnewid trafnidiaeth yma yng Nghymru.

Mae ceisiadau ar agor ar gyfer rolau cyffrous ym maes Peirianneg, Dadansoddi Risg a Chynllunio Trafnidiaeth.

Mae'r sefydliad yn chwilio am grŵp amrywiol o unigolion i ymuno â'i gynllun graddedigion blaenllaw'r farchnad, sy'n para dwy flynedd o 2021 ymlaen.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cyfrannu at brosiectau allweddol gwerth miliynau o bunnoedd fel Metro De Cymru, a fydd yn rhan allweddol o'r broses o drawsnewid rhwydwaith trafnidiaeth y genedl.

Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Rwy'n hynod falch ein bod wedi lansio ein cynllun i raddedigion cyntaf erioed ac yn annog unrhyw un fydd wedi graddio erbyn mis Medi 2021 i ystyried gwneud cais.

“Mae Trafnidiaeth Cymru yn sefydliad ifanc sy'n prysur dyfu, gyda chynlluniau beiddgar i drawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru, felly mae'n gyfnod cyffrous ac unigryw i ymuno â'r tîm. Er bod ein graddedigion yn dysgu sgiliau newydd ac yn ennill profiad gwych, byddant hefyd yn gweld stamp eu gwaith ar eu cymunedau.

“Rwy'n falch ein bod wedi gallu lansio ein cynllun ar adeg o gwtogi llawer o brentisiaethau a rhaglenni graddedigion. Dydyn ni ddim wedi pennu gofynion mynediad penodol, fel llawer o gynlluniau graddedigion eraill, er mwyn annog grŵp amrywiol o raddedigion i wneud cais.”

Yn wahanol i sawl rhaglen arall i raddedigion, does gan gynllun TrC ddim lefel mynediad ofynnol felly mae croeso i unrhyw un a fydd wedi graddio erbyn mis Medi 2021 wneud cais.

Dros ddwy flynedd, bydd y pum person graddedig llwyddiannus yn dilyn rhaglen o waith galwedigaethol ac addysgol blaenllaw a chyfle i astudio ar gyfer cymwysterau proffesiynol.

Ychwanegodd Lisa Yates, Cyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol TrC: “Ein gweledigaeth yw bod yn gyflogwr o ddewis, ac mae lansio ein cynllun i raddedigion yn garreg filltir gyffrous i ni.

“Bydd ein graddedigion yn gallu cael dechrau gwych i'w gyrfaoedd. Mae gennym ystod gyffrous o rolau yn ogystal â lleoliadau gwaith cadarn am ddwy flynedd, gyda chyfleoedd i weithio ar draws gwahanol rannau o TrC a chyda'n partneriaid a'n rhanddeiliaid.

“Rydym yn gweithio gyda &Partnership, ein partner blaenllaw yn y diwydiant, i gyflawni ein cynllun graddedigion. Byddwn hefyd yn rhoi cymorth ariannol ac absenoldeb astudio i ymgeiswyr llwyddiannus er mwyn cyflawni achrediadau a gydnabyddir yn broffesiynol. Rydym hefyd yn darparu sesiynau datblygu sgiliau i fyfyrwyr i'w paratoi i wneud cais am y cynllun.”

Mae TrC yn croesawu ceisiadau i'r cynllun tan 1 Chwefror 2021. Gall graddedigion ddysgu mwy a gwneud cais i Gynllun Graddedigion TrC yn: https://www.trcgyrfaoeddcynnar.cymru/ 

Nodiadau i olygyddion


Successful graduate scheme applicants will have the opportunity to work on projects such as the South Wales Metro. Pictured are TfW apprentices Dylan Griffiths and Rhydian Llewellyn

Gwyliwch weithwyr TrC yn rhannu eu profiadau o weithio i'r cwmni:
https://www.youtube.com/watch?v=ip5jqXNJ5Ck