Skip to main content

Abergele & Pensarn railway station set to be transformed

19 Chw 2021

Bydd ystafelloedd yng ngorsaf Abergele a Phensarn sydd heb eu defnyddio ers degawdau yn cael bywyd newydd diolch i Weledigaeth Gwella Gorsafoedd Trafnidiaeth Cymru.

Fel rhan o’r weledigaeth gwerth miliynau o bunnoedd, mae mannau segur mewn gorsafoedd ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn cael eu hadfer at ddefnydd cymunedol neu fasnachol.

Yn Abergele a Phensarn, mae’r contractwyr bellach ar y safle yn trawsnewid yr hyn a arferai fod yn swyddfa docynnau’r orsaf a’r prif adeilad yn ofod y gellir ei ddefnyddio.

Byddant yn ail-blastro, yn ailaddurno ac yn uwchraddio systemau goleuo a gwresogi. Bydd pob ffenestr a drws hefyd yn cael eu hatgyweirio.

Mae’r prosiect hefyd yn cael ei gefnogi gyda chyllid gan Ymddiriedolaeth Treftadaeth y Rheilffyrdd.

Mae’r orsaf Fictoraidd ar arfordir allweddol gogledd Cymru sy’n cysylltu Caergybi â Chaer. Mae wedi bod heb staff ers sawl degawd ac roedd contractwyr yn wynebu gofod a oedd angen llawer o waith.

Dywedodd Hugh Evans, Pennaeth Rheilffyrdd Cymunedol: “Mae Abergele a Phensarn yn orsaf hardd sydd â chymaint o hanes a photensial.

“Roedd hi’n wych gweld sut le oedd hi pan wnaethon ni’n edrych i mewn am y tro cyntaf, roedd bron fel camu’n ôl mewn amser. Bydd gallu rhoi’r lle at ddefnydd gwirioneddol dda i’r gymuned yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r ardal ac rydym yn falch o fod yn cyflawni’r prosiect hwn.

“Mae buddsoddi yn y broses o ailddechrau defnyddio mannau segur mewn gorsafoedd at ddibenion cymunedol neu fasnachol yn rhan allweddol o’n strategaeth, oherwydd rydyn ni’n gwybod bod gorsafoedd yn fwy na dim ond rhywle i ddal trên, maen nhw’n ganolfannau cymunedol. Hoffem ddiolch hefyd i’r Ymddiriedolaeth Treftadaeth Rheilffyrdd am eu cefnogaeth i’r prosiect.”

Er nad oes tenant wedi’i gadarnhau eto, mae’r prosiect yn dilyn ôl troed prosiectau tebyg yn Llandudno, Cyffordd Llandudno, y Fenni, y Barri ac Abertawe, ac mae gan bob un ohonynt brosiectau cyffrous ar y gweill.

Croesawyd y gwaith gan Faer Abergele, y Cynghorydd Alan Hunter. Dywedodd: “Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Trafnidiaeth Cymru i ddod ag adeiladau Gorsaf Abergele a Phensarn yn ôl i ddefnydd yn gam mawr ymlaen o ran adfywio’r ardal.

“Mae pobl leol yn llawn cyffro a diddordeb ynghylch beth fydd yn dod i’r ardal.

“Mae’r cynlluniau i rannu’r orsaf â grwpiau cymunedol wedi cael eu croesawu a byddant o fudd enfawr i drigolion lleol, cymunedau a’r cyhoedd ehangach sy’n defnyddio’r orsaf.

“Hoffwn ddiolch i Trafnidiaeth Cymru a’u tîm am ddewis ein gorsaf yn Abergele a Phensarn ar gyfer ei hadfywio ac edrychaf ymlaen at weld y gwaith gorffenedig a’r adeiladau ar agor i’w defnyddio.”

Dywedodd Andy Savage, Cyfarwyddwr Gweithredol Ymddiriedolaeth Treftadaeth y Rheilffyrdd: “Mae Ymddiriedolaeth Treftadaeth y Rheilffyrdd yn rhoi grantiau i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ddefnyddio mannau segur yn adeiladau rheilffyrdd treftadaeth Network Rail. 

“Gan fod Abergele a Phensarn yn adeilad rhestredig, rydyn ni wedi bod yn edrych arno fel prosiect posibl ers rhai blynyddoedd, ac rydyn ni wedi bod yn falch iawn o ddyfarnu grant o dros £210,000 i Wasanaethau Rheilffyrdd TrC tuag at adfer yr adeilad. 

“Mae ein grant wedi canolbwyntio’n benodol ar sicrhau bod drysau a ffenestri’n cael eu hadfer yn gywir, er mwyn gwella golwg yr adeiladau yn ogystal â’u gwneud yn haws o lawer eu defnyddio. 

“Edrychwn ymlaen at weld yr adeiladau’n gwasanaethu’r gymuned a’r rheilffordd unwaith eto.”