Skip to main content

Transport for Wales thanks rail neighbours and passengers after successful Metro work

26 Ion 2021

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi diolch i gymdogion a theithwyr ar ôl ailagor y rheilffordd i’r gogledd o Radur yn dilyn cyfnod rhwystro llwyddiannus o dair wythnos i barhau â’r gwaith o adeiladu Metro De Cymru.

Mae prosiect Metro De Cymru wedi ei gyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Gan fod nifer y teithwyr yn isel oherwydd y cyfyngiadau COVID 19 sydd mewn grym yng Nghymru, manteisiodd TrC ar y cyfle i gau rheilffyrdd Aberdâr, Treherbert a Merthyr, fel bod modd i’w timau weithio ddydd a nos ar Fetro De Cymru a gwaith adnewyddu hanfodol.

Mae’r gwaith peirianyddol pwysig a gafodd ei gyflawni yn cynnwys ail-osod dros ddwy filltir o gledrau, cloddio dros 700 o dyllau prawf, newid 46 o drawstiau, gosod 42 metr o systemau draenio cledrau a dros 2,600 metr o systemau cadw cebl.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

“Fe hoffwn i ddiolch yn fawr i deithwyr a chymdogion y rheilffordd am eu hamynedd a’u dealltwriaeth yn ystod y gwaith pwysig hwn ar Fetro De Cymru. Bydd Metro De Cymru yn trawsnewid bywydau ac yn gwella cysylltiadau yn Ne Ddwyrain Cymru. Mae’n wych bod TrC wedi gallu defnyddio’r cyfle hwn o alw isel i barhau a’r gwaith peirianyddol a thrawsnewidiol hwn.

“Fis nesaf, bydd y gwasanaethau trên yn symud i berchnogaeth gyhoeddus ac un o’r prif resymau dros y model newydd hwn oedd sicrhau bod y gwaith ar Fetro De Cymru’n mynd rhagddo ac i roi hyder i’r rheini sy’n gweithio ar y prosiect.”

Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Rhaglen Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru:

“Fe wnaethon ni gau’r rheilffordd i’r gogledd o Radur am dair wythnos ac mae ein timau a’n partneriaid wedi bod yn gweithio ddydd a nos i sicrhau ein bod ni’n manteisio ar y cyfle hwn ac yn parhau â cham nesaf Metro De Cymru.

“Mae ein timau wedi gosod cledrau newydd ac ail-osod cledrau sydd bron i bedair milltir a hanner o hyd. Yn dilyn ymchwiliadau ecolegol manwl, rydyn ni hefyd wedi clirio bron i 60,000 metr sgwâr o lystyfiant isel a fydd yn caniatáu i ni barhau â’n cynlluniau i drydaneiddio Metro De Cymru.

“Fe hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’n timau â’n partneriaid am eu hymdrechion dros y tair wythnos ddiwethaf i’n teithwyr a’r cymdogion sy’n byw ger y rheilffordd am eu hamynedd a’u dealltwriaeth.

Bydd Metro De Cymru yn gwella cysylltedd ledled De Cymru yn sylweddol ac yn sicrhau mynediad at swyddi, hamdden a chyfleoedd eraill i bobl Cymru drwy uno llwybrau teithio i drenau, bysiau a theithio llesol.