- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
19 Chw 2021
Mae prosiect Metro De Cymru sy'n cael ei gyflawni gan Trafnidiaeth Cymru yn parhau i roi hwb i'r economi leol drwy ddarparu mwy o gyfleoedd i fusnesau a chyflogaeth yng Nghymru.
Bydd y buddsoddiad o dri chwarter biliwn o bunnoedd yn trawsnewid y ffordd y mae pobl yn teithio yn Ne-ddwyrain Cymru ac mae’r rhaglen waith i drawsnewid y rheilffyrdd eisoes yn darparu cyflogaeth i’r gweithlu lleol ac yn datblygu contractau gyda busnesau bach a chanolig yng Nghymru.
Mae prosiect Metro De Cymru wedi ei gyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:
“Bydd Metro De Cymru nid yn unig yn trawsnewid y ffordd y mae pobl yn teithio yn Ne Ddwyrain Cymru, ond mae’r gwaith o’i adeiladu yn rhoi hwb mawr ei angen i’n heconomi.
“Drwy TrC, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi’n helaeth yn y rhwydwaith rheilffyrdd ac mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar gyflogaeth ac yn darparu cyfleoedd hanfodol i gwmnïau yng Nghymru.”
Mae High Motive Ltd, cwmni o Gaerdydd, wedi cyflogi pedwar o bobl leol yn ddiweddar yn ardal Rhondda Cynon Taf i weithio’n uniongyrchol ar brosiect Metro De Cymru.
Dywedodd Derek McNeill, Cyfarwyddwr Gweithrediadau High Motive:
“Mae prosiect Metro De Cymru yn ehangu ac yn darparu mwy o gyfleoedd busnes. Yn ddiweddar rydyn ni wedi creu pedair swydd newydd, dwy mewn ymchwil a datblygu a dwy swydd peirianneg, a fydd i gyd yn gweithio ar y prosiect.
“Mae’n wych gweld y lefel hon o fuddsoddiad yn y rhanbarth gan ei bod yn cynnig cyfleoedd ar gyfer twf busnes a chyflogaeth.”
Mae TrC yn dilyn fframwaith cynaliadwyedd sy’n sicrhau bod busnesau bach a chanolig yn gallu bod yn rhan o’r gadwyn gyflenwi ar gyfer y prosiect.
Dywedodd Alasdair Macdonald, Cyfarwyddwr Rhaglen Balfour Beatty:
“Yn Balfour Beatty, rydyn ni wedi ymrwymo i adael effaith gadarnhaol a pharhaol ar gymunedau lleol felly rydyn ni’n falch o allu adeiladu a thyfu cadwyn gyflenwi leol wrth i ni weithio gyda Trafnidiaeth Cymru ar y prosiect pwysig hwn.
“Fel rhan o floc o waith tair wythnos yn ddiweddar, buom yn cydweithio â naw o gyflenwyr o Gymru i’n helpu i gyflawni gwaith yn effeithlon. Edrychwn ymlaen at symud y prosiect yn ei flaen a pharhau i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi leol.”
Un o’r partneriaid allweddol o ran cyflawni Metro De Cymru yw Seilwaith Amey Cymru (SAC)/Amey Infrastructure Wales (AIW), ac wrth i’r prosiect barhau i ehangu, mae Amey yn awyddus i recriwtio staff rheoli a gweithredol ym meysydd OHLE a phŵer, signalau a thelathrebu, P-Way a disgyblaethau peirianneg sifil.
Ychwanegodd Simon Rhoden, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Seilwaith, ADA:
“Mae’r rhaglen drawsnewid ar gyfer Metro De Cymru yn tyfu ac rydyn ni’n recriwtio ar gyfer swyddi medrus, wrth i ni barhau i uwchraddio’r seilwaith rheilffyrdd ledled Cymoedd De Cymru.
“Mae llawer o swyddi gwag ar gael a byddwn yn annog y rheini sydd â diddordeb i fynd i wefan recriwtio Amey.”
Mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i gynnal digwyddiadau llwyfan rhithiol y gadwyn gyflenwi sy’n rhoi gwybodaeth i’r gadwyn gyflenwi bosibl am y cyfleoedd i weithio gyda phartneriaid cyflawni TrC a sut gall busnesau dendro am waith. Mae’r holl gyfleoedd ar gael ar GwerthwchiGymru ac mae cymorth ar gael drwy Busnes Cymru.