Skip to main content

Further South Wales Metro work to take place this month

13 Ion 2021

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn gwneud rhagor o waith ar gyfer Metro De Cymru y mis yma ar ôl ymestyn y cyfyngiadau lefel pedwar.

Gyda nifer y teithwyr yn is o lawer oherwydd effaith COVID-19, bydd TrC yn defnyddio’r cyfnod yma i fwrw ymlaen â gwaith seilwaith hanfodol ar gyfer y prosiect.

Ar gyfer cwsmeriaid sy’n teithio yn Ne Cymru dros y pythefnos nesaf, bydd bysiau’n cymryd lle trenau ar gyfer yr holl wasanaethau ar reilffyrdd Aberdâr, Merthyr a Threherbert i’r gogledd o Radur tan ddydd gwener 22 Ionawr. 

Ar ôl cael adborth gan deithwyr, bydd TrC yn cyflwyno gwasanaethau bws cynharach o’r ardaloedd hyn i Gaerdydd. Rydyn ni’n annog cwsmeriaid i wneud eu gwaith cartref ar-lein cyn teithio. 

Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Rhaglen Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru: “Mae ein timau wedi bod yn gweithio ddydd a nos ers dechrau’r flwyddyn i gwblhau’r gwaith hanfodol hwn ac rydyn ni i gyd yn falch iawn o’r cynnydd sydd wedi cael ei wneud.

“Gyda’r cyfyngiadau teithio hanfodol yn unig yn parhau, dyma’r amser mwyaf priodol i fwrw ymlaen â’r gwaith, gan darfu cyn lleied â phosibl ar deithwyr.

“Ar gyfer y gweithwyr allweddol hynny mae angen iddyn nhw ddefnyddio’r rhwydwaith o hyd, rydyn ni wedi gwrando ar adborth a byddwn yn darparu gwasanaethau cynharach i Gaerdydd a ddylai hefyd olygu ei bod hi’n haws cadw pellter cymdeithasol.

“Unwaith eto, hoffwn ddiolch i’n holl gwsmeriaid a’n cymdogion rheilffordd am eu hamynedd, ac rwy’n annog unrhyw un sydd angen teithio i gynllunio ymlaen llaw.”

“Hoffwn ddiolch hefyd i’n holl dimau a phartneriaid am eu hymdrechion parhaus.”

Bydd Metro De Cymru yn gwella cysylltedd ledled De Cymru yn sylweddol ac yn sicrhau mynediad at swyddi, hamdden a chyfleoedd eraill i bobl Cymru drwy uno llwybrau teithio i drenau, bysiau a theithio llesol. 

Mae prosiect Metro De Cymru wedi ei gyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.