Skip to main content

Transport for Wales seeks advisory group members

23 Tach 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru yn chwilio am dri aelod gwirfoddol ar gyfer Grŵp Cynghori ar Ddatblygu Cynaliadwy er mwyn helpu’r sefydliad i weithredu yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Bydd y gwirfoddolwyr yn aelodau o Grŵp Cynghori ar Ddatblygu Cynaliadwy. Mae hwn yn grŵp newydd sy’n cael ei sefydlu i sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn cyflawni ei holl waith yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, Deddf yr Amgylchedd, Deddf Teithio Llesol a deddfwriaethau perthnasol eraill.

Bydd aelodau'r grŵp cynghori yn helpu i graffu ar waith Trafnidiaeth Cymru ac yn sicrhau bod datblygiadau’n cael eu rhannu â’i randdeiliaid.

Bydd y grŵp yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn, ar-lein i ddechrau. Ond bydd cyfle i gyfarfod go iawn yn y dyfodol, mewn lleoliadau mwy diddorol, pan fydd hi’n ddiogel gwneud hynny.

Dywedodd Natalie Rees, Rheolwr Datblygu Cynaliadwy Trafnidiaeth Cymru: “Mae Trafnidiaeth Cymru yn ceisio trawsnewid y rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru a’r Gororau er mwyn dod yn wirioneddol gynaliadwy ac yn addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Bydd aelodau gwirfoddol y bwrdd cynghori newydd yn chwarae rhan hollbwysig yn ein helpu ni i sicrhau bod cwsmeriaid a chymunedau wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud.

“Rydyn ni’n arbennig o awyddus i ddenu pobl sydd â phrofiad o'r ‘Dulliau o Weithio’ Atal, Integreiddio a Hirdymor, fel sy’n cael eu nodi yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

“Bydd Trafnidiaeth Cymru yn cyflawni nifer o brosiectau unwaith-mewn-cenhedlaeth dros y degawd nesaf, ac mae hwn yn gyfle cyffrous i aelodau’r cyhoedd fod yn rhan flaenllaw o hynny.”

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â’r Grŵp Cynghori ar Ddatblygu Cynaliadwy gysylltu â Natalie Rees, Rheolwr Datblygu Cynaliadwy, drwy anfon e-bost at natalie.rees@tfw.wales neu ffonio 02921 054 015 erbyn 27 Tachwedd 2020.

Llwytho i Lawr