- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
09 Chw 2021
Mae Trafnidiaeth Cymru yn goleuo adeilad ei bencadlys newydd ym Mhontypridd gyda lliwiau’r enfys i ddathlu Mis Hanes LGBT+.
Bob mis Chwefror yn y DU, mae’r mis yn ddathliad sy’n annog addysg bellach i fynd i’r afael â materion LGBT+ a thrwy oleuo ei adeilad, mae TrC yn falch o gefnogi a hyrwyddo cymdeithas sy’n fwy diogel a chynhwysol yn gyffredinol.
Mae TrC, fel sefydliad newydd sydd wedi coleddu egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn croesawu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn llawn ac yn gwreiddio hynny yn niwylliant y gweithle.
Ers cyhoeddi’r Amcanion Cydraddoldeb Strategol ym mis Mehefin 2020, mae TrC wedi sefydlu grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, lle mae cydweithwyr yn cynrychioli elfennau o nodweddion gwarchodedig fel aml-ddiwylliant, aml-genhedlaeth, rhywedd, anabledd ac LGBT+.
Dywedodd Lisa Yates, Cyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol: “Rydyn ni’n falch iawn ein bod ni’n cefnogi’r mis hwn drwy oleuo ein hadeilad newydd â lliwiau’r enfys.
“Mae TrC yn sefydliad cwbl gynhwysol, lle mae pob cydweithiwr yn cael ei drin yn gyfartal gyda pharch, a lle mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu.
“Yn ddiweddar, rydyn ni wedi sefydlu ein grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, lle mae ein cydweithwyr yn cynrychioli gwahanol elfennau o nodweddion gwarchodedig, ac mae LGBT+ yn un ohonyn nhw.”