Skip to main content

Lab by Transport for Wales to showcase innovation and tech talent

02 Tach 2020

Mae’r rhaglen arloesi fwyaf blaenllaw yng Nghymru ar gyfer y rheilffyrdd ar fin gweld yr ail griw o ymgeiswyr creadigol ac uchelgeisiol yn cyflwyno eu syniadau.

Mae’r rhaglen gyflymu yn para 12 wythnos a’i bwriad yw ysgogi twf yng Nghymru. Mae’n cynnig cyfle cyffrous i arloeswyr busnesau ddatblygu eu syniadau i geisio gwella’r profiad i gwsmeriaid ar y rheilffyrdd.

Mae ail gohort y cynllun arloesol wedi bod yn gweithio’n agos â TrC dros y cyfnod o 12 wythnos. Mae’r 11 o fusnesau newydd - sef rhai o'r doniau mwyaf disglair yng Nghymru a’r DU - wedi cael eu mentora gan arbenigwyr busnes i ddatblygu eu cynnyrch, eu syniadau a’u dyfeisiadau.

Mae’r busnesau newydd wrthi’n paratoi i gyflwyno eu cynnyrch i’r swyddogion blaenllaw sy’n gwneud penderfyniadau yn Nhrafnidiaeth Cymru, a hynny mewn diwrnod arddangos rhithiol ddydd Gwener 13 Tachwedd (13:30-16:00). Yn anffodus, oherwydd cyfyngiadau COVID-19, nid yw cohort 2 o'r rhaglen wedi gallu cael ei gynnal yng nghyfleuster labordy modern TrC yng Nghasnewydd.

Bydd yr enillwyr yn cael arian i ddatblygu eu cynnyrch ymhellach.

Dylai unrhyw un sydd eisiau gwylio'r diwrnod arddangos gofrestru drwy Eventbrite.

Yn ystod y diwrnod arddangos, bydd pob busnes newydd yn rhannu cyflwyniad fideo i gyflwyno eu cynnyrch terfynol. Yna, bydd y mynychwyr yn gallu gofyn cwestiynau a rhwydweithio â phob busnes mewn ystafelloedd ar wahân (drwy Microsoft Teams).

Ymysg rhai o'r syniadau arloesol sy’n cael eu datblygu, mae technoleg chwyldroadol y mae modd i'r staff ei gwisgo i helpu i leihau anafiadau wrth godi a chario, gwasanaeth ‘cynorthwyydd teithio’ i bersonoli cynlluniau taith i gwsmeriaid, a system amser real i gyfrif teithwyr a seddi sy’n cael eu defnyddio, er mwyn helpu cwsmeriaid i ddefnyddio gwybodaeth i wneud penderfyniadau ynglŷn â sut i deithio. 

Bydd y diwrnod arddangos yn ceisio ysbrydoli arloesedd mewn busnesau, a bydd yn cynnig cipolwg ar rai o’r datblygiadau arloesol sy'n dod i rwydwaith rheilffyrdd Cymru a’r Gororau.

Dywedodd Barry Lloyd, Pennaeth Profiad Cwsmeriaid ac Arloesi Trafnidiaeth Cymru:

“Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at yr 2il Ddiwrnod Arddangos er mwyn i'r busnesau gwych a oedd gennym yng nghohort 2 allu dangos y gwaith cyffrous maent wedi’i wneud dros y 12 wythnos ddiwethaf.

“Oherwydd cyfyngiadau COVID-19, nid dyma yn union oedd y profiad roeddem eisiau ei ddarparu ond nid yw hyn wedi amharu ar y brwdfrydedd a’r diddordeb a welsom gan bawb. Yn wir, mae wedi dod â deinamig cwbl newydd i'r rhaglen.

“Mae wedi bod yn wych gweithio gyda’r cohort a gweld y syniadau’n troi’n gynnyrch a gwasanaethau a fydd yn diwallu ein hanghenion busnes, nawr ac yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Adam Foster, Pennaeth Marchnata yn Alt Labs:

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddiwrnod arddangos cohort 2, nid yn unig er mwyn gweld y prosiectau cyffrous y mae’r busnesau newydd wedi bod yn gweithio arnynt ond hefyd er mwyn gweld yr heriau y maent wedi’u goresgyn oherwydd COVID a gweithio o bell.”

 “Er gwaethaf y rhwystrau yma, mae pob busnes wedi gwneud gwaith gwych yn cymryd rhan yn y gweithdai, yn ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac yn gweithio ar ddatblygu datrysiadau a fydd yn gwella gwasanaethau rheilffyrdd ledled Cymru a'r gororau.”

“Bu diwrnod arddangos rhithiol cohort 1 yn llwyddiant mawr, ac rydyn ni'n adeiladu ar y llwyddiant hwnnw ar gyfer cohort 2 drwy ymgorffori cyfleusterau rhwydweithio ychwanegol i roi cyfle i’r mynychwyr ymgysylltu â’r busnesau yn uniongyrchol ar ôl iddynt gyflwyno eu syniadau.”

“Hoffwn hefyd ddiolch yn fawr i bawb yn Nhrafnidiaeth Cymru sydd wedi sicrhau eu bod ar gael i gydweithio gyda’r busnesau newydd.”

Bu Cohort 1 yn y rhaglen yn hynod lwyddiannus, gan fod Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru wedi symud ymlaen â’r tri busnes a ddewiswyd yn enillwyr.

Mae Brite Yellow Ltd, Passage Way a CleverCiti wedi cael arian i ddatblygu eu cynnyrch ymhellach, ac mae’r rheini yn amrywio o apiau i ganfod y ffordd i ddatrysiadau parcio ar gyfer cwsmeriaid.

Cewch ragor o wybodaeth am bob un o'r busnesau newydd, a’r cynnyrch a gyflwynir ganddynt yn y diwrnod arddangos, yn y fan yma.

Llwytho i Lawr