- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
14 Chw 2021
Mae’n bleser gan Trafnidiaeth Cymru gyhoeddi agor gorsaf newydd Bow Street.
Roedd y trên cyntaf wedi stopio yn yr orsaf yng Ngheredigion, canolbarth Cymru, am 9.12am ddydd Sul 14 Chwefror, gan ddarparu cysylltiad â’r rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol i gymuned Bow Street am y tro cyntaf ers i’r hen orsaf gael ei chau yn 1965.
Dyma’r orsaf gyntaf i gael ei hagor yng Nghymru ers Tref Glyn Ebwy ym mis Mai 2015 a dyma’r orsaf gyntaf i Trafnidiaeth Cymru ei hagor ers dod yn gyfrifol am fasnachfraint rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn 2018.
Mae’r datblygiad wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Adran Drafnidiaeth, a nodwyd yn gyntaf yn 2010 fel cyfle a oedd yn cynnig gwerth am arian ac sydd â chefnogaeth leol gref.
Disgwylir y bydd yr orsaf newydd yn creu dros 30,000 o deithiau newydd bob blwyddyn (ar sail lefelau cyn COVID), yn lleihau tagfeydd a phroblemau parcio yn Aberystwyth, ar yr un pryd â chreu cyfleoedd cyflogaeth ac addysg newydd i drigolion lleol.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Mae hyn yn newyddion gwych i deithwyr ac i’r ardal leol. Bydd yr orsaf yn dod â manteision cymdeithasol ac economaidd i’r ardal, a fydd, ochr yn ochr â’r llwybrau teithio llesol cyfagos, yn ei gwneud yn haws i bobl deithio mewn ffordd gynaliadwy.
“Mae’r cyllid rydyn ni wedi’i ddarparu yn arwydd o’n hymrwymiad parhaus i wella’r rheilffyrdd yng Nghymru a rhoi mwy o ddewis i deithwyr.”
Dywedodd Chris Heaton-Harris, Gweinidog Rheilffyrdd Llywodraeth y DU: “Mae’n wych bod cysylltiadau rheilffyrdd hanfodol wedi cael eu hadfer ar gyfer cymuned Bow Street am y tro cyntaf ers dros 50 mlynedd.
“Mae ein buddsoddiad mewn gorsafoedd newydd yn canolbwyntio ar wella teithiau, rhoi hwb i fynediad at swyddi ac at addysg a sbarduno twf economaidd wrth i ni ddod yn ôl yn gryfach ar ôl Covid-19.”
Bydd yr orsaf yn cael ei gwasanaethu gan drenau ar Reilffordd y Cambrian rhwng Aberystwyth ac Amwythig ac o 2022 ymlaen bydd yn elwa o gyflwyno trenau newydd sbon a gwasanaeth bob awr o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru: “Mae cwblhau’r orsaf newydd gyntaf ers dod yn gyfrifol am wasanaethau rheilffyrdd Cymru a’r Gororau yn garreg filltir gyffrous a phwysig i ni.”
“Mae’n brawf o sgiliau a gwaith caled ein timau eu bod wedi gallu cyflawni’r orsaf newydd hon er gwaethaf yr heriau a achoswyd gan bandemig COVID-19 dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Ar hyn o bryd mae trafnidiaeth gyhoeddus ar agor i’r rheini sy’n gwneud teithiau hanfodol yn unig, ond rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu trigolion ac ymwelwyr i Bow Street pan fydd y cyfyngiadau’n newid a phan fydd hi’n ddiogel gwneud hynny.”
Mae Bow Street yn cynnwys un platfform 100m o hyd gyda lloches aros i deithwyr, pwynt gwybodaeth amser real a pheiriant tocynnau.
Mae hefyd yn cynnwys maes parcio parcio-a-theithio gyda lle i 70 o geir a phwynt codi a gollwng, mynediad at lwybrau beicio lleol a lloches dan do i feiciau. Mae mynediad hwylus i’r orsaf yn sgil y gwelliannau i gyffordd bresennol yr A415 â'r A487(T).
Dywedodd Bill Kelly, cyfarwyddwr llwybrau Network Rail yng Nghymru: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu cefnogi TrC i ddatblygu a darparu gorsaf newydd Bow Street.
“Bydd yn cael effaith gadarnhaol iawn ar y gymuned leol a’r rhanbarth ehangach gan y bydd yn haws nag erioed i bobl gysylltu â chyflogaeth, addysg, iechyd a gwasanaethau hanfodol eraill.”
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, Aelod Cabinet Cyngor Ceredigion ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, Tai a Chyswllt Cwsmeriaid: “Ar ran Cyngor Sir Ceredigion, rwy’n falch iawn bod Trafnidiaeth Cymru bellach wedi cwblhau’r Gyfnewidfa Drafnidiaeth Gyhoeddus newydd yn Bow Street.
“Ni fyddai dim o hyn wedi digwydd heb weledigaeth, gwaith caled ac ymroddiad nifer o unigolion a sefydliadau yn gweithio gyda’i gilydd dros y 10 mlynedd diwethaf ar y prosiect hwn. Yn ddiau mae hwn yn gam mawr ymlaen i Geredigion a Chanolbarth Cymru - bydd y Gyfnewidfa yn rhoi hwb mawr ei angen i’r economi leol ac yn helpu i wella’r cyfleoedd teithio cynaliadwy sydd ar gael fel rhan o’n hymdrechion i ddatgarboneiddio’r sector trafnidiaeth.”
Nodiadau i olygyddion
Please note the change of embargo time to 10pm on Sunday 14th February. Further images and video will be made available on Sunday 14th February, please contact tim.lewis@tfw.wales with requests.
Dyfyniadau ychwanegol gan y Cynghorydd Dafydd Edwards: “Mae llwybrau Teithio Llesol hefyd nawr yn cysylltu’r Gyfnewidfa â champws Plas Gogerddan Prifysgol Aberystwyth a’r cymunedau cyfagos, gan ddarparu gwell mynediad at y gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau a fydd yn cysylltu ac yn rhedeg o’r Gyfnewidfa newydd.”
Dyfyniad ychwanegol gan WSP, y cwmni ymgynghorwyr gwasanaethau peirianneg proffesiynol sy’n gweithio ar y prosiect. Dywedodd Nick Heard, Cyfarwyddwr y Prosiect a Rheolwr Cyfrifon Cleientiaid TrC: “Bydd Cyfnewidfa Drafnidiaeth newydd Bow Street yn trawsnewid cysylltedd ar gyfer cymunedau lleol ar yr un pryd â bod yn esiampl o ddylunio cynhwysol a chyfleoedd teithio llesol. Mae’r cydweithio agos rhwng WSP, TrC a’r nifer o randdeiliaid pwysig wedi bod o fudd i greu darn o seilwaith sy’n wych, gan ddod â rheilffyrdd, ffyrdd a beicio at ei gilydd.”
- Disgwylir y bydd yn creu 30,800 o deithiau newydd (ar sail lefelau cyn COVID).
- Disgwylir y bydd yn tynnu oddeutu 743,000 o gilometrau cerbyd oddi ar y rhwydwaith ffyrdd.
- Cafodd 5000m3 o glymog Japan ei drin a’i ailddefnyddio wrth lenwi, gan osgoi anfon 400 llwyth HGV i safleoedd tirlenwi.
- Dros 150,000 awr o waith gan staff TrC ac asiantaethau partner.
- Oddeutu 560 tunnell o adrannau platfform wedi’u mowldio ymlaen llaw.
- Wedi addasu 300m o drac. Wedi disodli 1000 tunnell o falast.
- Mae un platfform tua 100m o hyd (hyd gweithredol) a 3.5m o led
- Maes parcio i 70 o geir, gyda 4 lle i feiciau modur, 4 lle anabl a 3 lle ar gyfer cyfleusterau gwefru cerbydau trydan i’r dyfodol.
- Lloches aros i deithwyr ar y platfform gyda lle i eistedd.
- Lleoedd i eistedd, heb fod dan do, ar y platfform.
- Pwynt gwybodaeth a gwybodaeth amser real i deithwyr.
- Peiriant tocynnau.
- Teledu Cylch Cyfyng ar gyfer y platfform a’r maes parcio.
- Ffens newydd o amgylch terfyn allanol y platfform.
- Goleuadau LED ar y platfform.
- System pwynt cymorth dwyffordd.
- Diffibriliwr mewn uned gaeedig wedi’i gwresogi.
- Llochesi i Bobl Anabl ac i Bobl sy’n Defnyddio Cadair Olwyn.
- Goleuadau yn y maes parcio.
- Lle dan do i gadw beiciau.
- Gwelliannau i gyffordd bresennol yr A415 â'r A487(T).
- Mynediad i Gerddwyr.
- Man gollwng a chasglu teithwyr ar fysiau, gyda lloches aros a gwybodaeth am amserlenni drwy Sgrin Wybodaeth Amser Real am Fysiau (RTBIS).
- Cysylltiadau â’r llwybr teithio llesol lleol.
- Diffibriliwr mewn uned gaeedig wedi’i gwresogi.