Skip to main content

Transport for Wales supporting Snowdonia National Park Authority encourage more sustainable travel

05 Chw 2021

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar strategaeth a fydd yn helpu i wella mynediad, yn mynd i’r afael â heriau parcio ac yn annog dulliau cludiant mwy cynaliadwy.

Drwy ganolbwyntio ar lwybrau teithio llesol, pyrth cludiant cyhoeddus, ymgynghori lleol a mesurau tocynnau clyfar, mae TrC yn bwriadu cyflwyno strategaeth a fydd yn cynnig atebion i broblemau mewn rhai ardaloedd o’r Parc Cenedlaethol.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gobeithio cynnig twristiaeth gynaliadwy o’r radd flaenaf yng Nghymru, sy’n cael ei gwarchod ac sy’n cyfrannu’n gadarnhaol at yr economi leol. Mae TrC yn gweithio’n agos ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a bydd yn ymgynghori â chymunedau lleol a rhanddeiliaid i helpu llunio’r strategaeth.

Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Datblygu Gogledd Cymru ar ran Trafnidiaeth Cymru:

“Rydym yn falch iawn o gefnogi Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, gan ei bod yn hanfodol ein bod yn sefydlu dull cynaliadwy sy’n darparu cyfleoedd integredig i bobl archwilio’r ardal ymhellach ar droed, ar feic neu ar gludiant cyhoeddus. Yn Trafnidiaeth Cymru, rydym yn ymroddedig i sicrhau buddsoddiad cyhoeddus gyda phwrpas cymdeithasol ac rydym yn cyflawni prosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl, busnesau a chymunedau Cymru.”

Dywedodd Catrin Glyn, Swyddog Partneriaeth yr Wyddfa:

“Mae gorddibyniaeth ar geir ar hyn o bryd i gyrraedd safleoedd poblogaidd yng nghanol Eryri, a phroblemau parcio cronig ar adegau prysur o’r flwyddyn yn llesteirio dibenion craidd y Parc Cenedlaethol, o ddiogelu’r dirwedd, hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad o’r ardal, a chefnogi lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol.

“Mae’r Bartneriaeth wedi ymrwymo i warchod y mynydd a’r ardal gyfagos, wrth wneud y dirwedd arbennig yn fwy hygyrch i ymwelwyr sy’n cyrraedd heb geir, a galluogi pobl sy’n cyrraedd yr ardal mewn ceir i allu manteisio ar ffyrdd eraill o deithio o gwmpas ac ymweld â’r atyniadau.  Rydym yn gobeithio bydd rhanddeiliaid a chymunedau lleol yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ac yn ein helpu i lunio’r strategaeth a llywio’r cynlluniau parcio a thrafnidiaeth sy’n cael eu datblygu.”

Mae’r ymgynghoriad yn cael ei gynnal gan Bartneriaeth yr Wyddfa ac yn canolbwyntio ar wella mynediad a chysylltedd ardaloedd yr Wyddfa ac Ogwen ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 1 Chwefror a 7 Mawrth 2021 ac mae preswylwyr lleol yn cael eu gwahodd i weithdy cymunedol ar-lein sy’n canolbwyntio ar y materion a’r atebion posibl ar gyfer pob un o gymunedau’r porth:

- Llanberis: 18:30-20:30 dydd Mercher, 24 Chwefror

- Betws-y-coed:18:30-20:30 dydd Iau, 25 Chwefror

- Beddgelert: 18:30-20:30 dydd Mawrth, 2 Mawrth

- Bethesda: 18:30-20:30 dydd Mercher, 3 Mawrth

I gael rhagor o wybodaeth ac i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ewch i https://www.snowdonpartnership.co.uk/parcio-a-thrafnidiaeth, ffoniwch 01286 875860 neu anfonwch e-bost at yrwyddfa@grasshopper-comms.co.uk