- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
12 Chw 2021
Fel rhan o'i ymrwymiad i deithio llesol, bydd Trafnidiaeth Cymru yn cynnal gweithdy rhithwir am y tro cyntaf yng Ngŵyl Wyddoniaeth Caerdydd yn ddiweddarach y mis hwn (18 Chwefror). Bydd y gweithdy yn dangos atebion cynaliadwy a defnyddiol i drwsio a chynnal a chadw eich beics, gyda chyngor arbenigol gan gwmni Dragon Cycles Caerdydd.
Dyma'r drydedd flwyddyn i Ŵyl Wyddoniaeth Caerdydd hawlio'r brifddinas er mwyn addysgu ac ysbrydoli eraill. Mae'r ŵyl yn rhoi llwyfan i wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yng nghalon prifddinas Cymru. Fel arfer, byddem yn dathlu'r ŵyl pedwar diwrnod ar hyd a lled y ddinas, ond eleni, gallwch ddysgu a darganfod mwy ar-lein, gan ddod â gwyddoniaeth i gysur eich cartref.
Nod y cydweithrediad rhwng Phil Thomas, perchennog Dragon Cycles Caerdydd a Louis Mertens, Swyddog Ymgysylltu â'r Gymuned Trafnidiaeth Cymru yw helpu pobl i barhau i feicio fel ymarfer corff gydol y cyfnod clo, a rhoi'r hyder iddyn nhw ddefnyddio eu beics fel cludiant hirdymor.
Dywedodd Lois Park, Pennaeth Ymgysylltu â'r Gymuned a Rhanddeiliaid, Trafnidiaeth Cymru: “Drwy recriwtio ein Swyddogion Ymgysylltu â'r Gymuned newydd o Fôn i Fynwy, roeddem yn awyddus i fod yn rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Caerdydd eleni a hyrwyddo ein gwaith ymgysylltu â chymunedau a theuluoedd. Rydym yn falch iawn o'r cyfle i weithio gyda chwmni sefydledig fel Dragons Cycles, sy'n cwmpasu ein gwerthoedd a'n nodau a welir yn strategaethau Teithio Llesol Trafnidiaeth Cymru.”
“Rydym wedi ymrwymo i gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddewis cerdded a beicio fel y ffyrdd a ffefrir o fynd a dod os yw’r daith yn un fyrrach. Wrth gefnogi Llywodraeth Cymru gyda'r weledigaeth hon, rydym yn cydweithio â'n partneriaid i greu mwy o lwybrau teithio llesol ac rydym eisoes yn cynyddu nifer y mannau storio beiciau yn ein gorsafoedd trenau.
Meddai Phil Thomas, perchennog Dragons Cycles: “Fel y gwyddom, mae llygredd yn ein trefi a'n dinasoedd yn datblygu'n risg sylweddol i iechyd a'r amgylchedd. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r newid i ddulliau teithio llesol a'n nod yw dangos i rai nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd, o'r gwelliannau ffordd o fyw sy'n bosibl diolch i feics arferol neu drydanol. Rhan hanfodol o brynu beic yw cael y sgiliau a'r wybodaeth i wneud gwaith trwsio a chynnal a chadw sylfaenol. Gan mai nod yr Ŵyl yw 'datgelu'r wyddoniaeth tu ôl i'ch bywyd bob dydd', roedd gweithdy ar wella'ch sgiliau trwsio beics yn swnio’n arbennig o addas."
Cynhelir ein gweithdy ar 18 Chwefror, rhwng 12:00 a 12:45 y pnawn.
Ymunwch â'n gweithdy ac ewch i weld pa ddigwyddiadau eraill sy'n rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Caerdydd yn https://www.cardiffsciencefestival.co.uk/cy/hafan/
Gallwch ddysgu mwy am ein partner cydweithredu Dragon Cycles hefyd: https://www.dragoncycles.co.uk/