Skip to main content

Improvements at Abergavenny railway station thanks to investment by Transport for Wales

29 Ion 2021

Bydd gorsaf reilffordd y Fenni, sy’n bodoli ers 160 o flynyddoedd, yn gartref i ddatblygiad cymunedol newydd cyffrous, diolch i fuddsoddiad gan Trafnidiaeth Cymru.

Bydd gorsaf reilffordd y Fenni, sy’n bodoli ers 160 o flynyddoedd, yn gartref i ddatblygiad cymunedol newydd cyffrous, diolch i fuddsoddiad gan Trafnidiaeth Cymru.

Yn yr orsaf, sydd wedi gwasanaethu’r dref a’r gymuned ehangach ers canol oes Fictoria, bydd rhai o’r mannau gwag yn cael eu haddasu i fod yn oriel gelf.

Mae contractwyr ar y safle erbyn hyn, a disgwylir y bydd Peak Cymru yn symud i’r safle yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Mae’r buddsoddiad yn rhan o weledigaeth ehangach TrC i fuddsoddi miliynau o bunnoedd mewn gorsafoedd, wrth i system newydd sbon ar gyfer teledu cylch cyfyng a System Gwybodaeth i Gwsmeriaid gael eu gosod yn nes ymlaen yn y flwyddyn, gyda’r System Gwybodaeth i Gwsmeriaid yn cael ei hariannu gan Network Rail.

Mae Ymddiriedolaeth Treftadaeth y Rheilffyrdd hefyd wedi rhoi cymorth ariannol, ac mae TrC yn ddiolchgar iawn i’r elusen am ei chefnogaeth.

Dywedodd Hugh Evans, Pennaeth Rheilffyrdd Cymunedol:

“Mae gorsaf y Fenni yn hyfryd, ac mae wedi gwasanaethu’r ardal ers 1860. Felly, roedd yn addas ein bod ni’n datblygu’r mannau cymunedol yma yn yr orsaf hon.

“Bydd y prosiect yn rhoi llwyfan i artistiaid lleol arddangos eu gwaith.

“Mae buddsoddi yn y broses o ailddechrau defnyddio mannau segur mewn gorsafoedd at ddibenion cymunedol neu fasnachol yn rhan allweddol o’n strategaeth, oherwydd rydyn ni’n gwybod bod gorsafoedd yn fwy na dim ond rhywle i ddal trên, maen nhw’n ganolfannau cymunedol.”

Bydd y cyfleusterau newydd yn ychwanegol at y caffi teuluol prysur ym mhrif adeilad yr orsaf, a ffisiotherapydd sydd hefyd yn rhedeg busnes o’r orsaf.

Mae Peak Cymru yn sefydliad celfyddydol yn ardal y Mynydd Du, ac mae’n gwneud gwaith creadigol gyda chymunedau ac artistiaid proffesiynol.

Gan ddefnyddio gofod yr orsaf ar gyfer stiwdios celf ac orielau, nod cyffredinol Peak Cymru yw cynyddu’r cyfleoedd i blant a phobl ifanc ymwneud â’r gwahanol rannau o’u rhaglen artistig.

Dywedodd Melissa Appleton o Peak Cymru:

“Mae Peak yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â Trafnidiaeth Cymru i ddatblygu mannau i gyflwyno celf ac artistiaid yng ngorsaf reilffordd y Fenni.

“Byddwn ni'n defnyddio ardaloedd bob ochr i ystafell aros platfform 2, yn ogystal â chreu stiwdios i artistiaid ym mhrif adeilad yr orsaf.

“Yn ystod Haf 2021, bydd gwaith celf gan artistiaid rhyngwladol a rhanbarthol i'w gweld bob awr o’r dydd ym Mhlatfform 2. Yn nes ymlaen yn y flwyddyn, rydym yn bwriadu ei drawsnewid yn ofod prosiect i bobl ifanc fel rhan o Culture is Ordinary - rhaglen canmlwyddiant i ymateb i waith y nofelydd, yr adolygydd a’r theoregydd o’r Pandy, Raymond Williams, y bu ei dad yn gweithio mewn bocs signalau ar yr un rheilffordd.”

Mae Ymddiriedolaeth Treftadaeth y Rheilffyrdd yn cynorthwyo cwmnïau trên gweithredol i gynnal a chadw strwythurau ac adeiladau rhestredig drwy gynnig cymorth, cyngor ac arian grant.

Yn y cyfamser, mae Network Rail yn parhau i ddatblygu cynlluniau i ddarparu mynediad heb risiau i’r platfformau a rhyngddynt. Mae'r cynllun hwn yn cael ei ariannu drwy raglen Mynediad i Bawb yr Adran Drafnidiaeth - gydag arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru drwy Trafnidiaeth Cymru.

Dywedodd Bill Kelly, cyfarwyddwr llwybrau Cymru a’r Gororau Network Rail:

“Mae gan y Fenni dreftadaeth gyfoethog dros ben o ran rheilffyrdd. Mae pobl leol yn falch iawn o’u gorsaf, a bydd cynlluniau cyffrous Trafnidiaeth Cymru yn atgyfnerthu ei rôl fel canolbwynt i’r gymuned.

“Mae’r cynllun datblygu cymunedol yma’n ategiad perffaith i’r buddsoddiad ehangach sydd ar y gweill yn y Fenni – gan gynnwys ein prosiect blaenllaw i sicrhau bod yr orsaf yn hygyrch i bawb.”

Llwytho i Lawr