- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
22 Hyd 2020
Yng nghyd-destun heriau digynsail Covid-19, mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) a Keolis ac Amey wedi cymryd y camau cyntaf tuag at ailddiffinio’r partneriaeth a gychwynnwyd yn 2018, a fydd yn sicrhau bod rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a’r Gororau yn parhau i gael ei drawsnewid.
Cyhoeddodd TrC, Keolis ac Amey eu bod wedi dod i gytundeb a fydd yn arwain at weithredu model cyllido a gweithredol newydd. Bydd y manylion terfynol yn cael eu cwblhau yn ystod y misoedd nesaf. Croesewir y cytundeb hwn gan Lywodraeth Cymru a TrC, sydd bellach gyda gweledigaeth gynaliadwy ar gyfer cyflawni eu hamcanion uchelgeisiol ar gyfer rheilffyrdd, er gwaethaf effeithiau Covid-19, a gyda Keolis ac Amey, a fydd yn parhau i gyfrannu eu harbenigedd rhyngwladol-enwog i sicrhau'r trawsnewidiad er gyfer teithwyr yng Nghymru.
O dan y cytundeb newydd, bydd is-gwmni newydd Trafnidiaeth Cymru, sy’n eiddo cyhoeddus, yn rhedeg y gwasanaethau rheilffyrdd o ddydd i ddydd.
Mae'r cytundeb hefyd yn sicrhau bod prosiectau allweddol sy'n anelu at drawsnewid profiad teithwyr, gan gynnwys darparu cerbydau newydd sbon a Metro De Cymru,yn parhau i elwa ar gymorth KeolisAmey.. Yn ogystal, bydd Seilwaith AmeyKeolis yn parhau i gyflawni’r gwaith cyffrous o drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd ynghyd â’u cynnal a chadw.
Bydd KeolisAmey hefyd yn partneru gyda TrC i wella profiad cwsmeriaid yn sylweddol drwy docynnau integredig a systemau trafnidiaeth ar-alw.
Yn olaf, o dan y trefniadau newydd, byddwn hefyd yn galw ar arbenigedd rhyngwladol sylweddol Keolis ac Amey i gynghori a chefnogi ar draws amrywiaeth ehangach o feysydd symudedd.
Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Rwy’n falch o’r cytundeb hwn, a fydd yn galluogi Trafnidiaeth Cymru i barhau i drawsnewid rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a’r Gororau dros gyfnod eithriadol o anodd i’r diwydiant, a welodd ostyngiad enfawr mewn niferoedd teithwyr a refeniw. Mae KeolisAmey wedi gwneud cyfraniad sylweddol at drafnidiaeth yng Nghymru dros y ddwy flynedd diwethaf ac rwyf wedi croesawu eu dull gweithredu ar y cyd i sicrhau’r cytundeb hwn, sydd wedi caniatáu i ni gyflawni ffordd gadarnhaol ymlaen ar gyfer contract Cymru a’r Gororau.
“Byddwn yn parhau i elwa ar arbenigedd diwydiant rhyngwladol Keolis ac Amey gan roi mwy o reolaeth i TrC a Llywodraeth Cymru gyflawni ein hamcanion trafnidiaeth allweddol, wrth i ni geisio cynnal cynnydd da’r rhwydwaith rheilffyrdd a sicrhau ei fod yn chwarae rhan hollbwysig o ran helpu Cymru i fod mewn sefyllfa dda mewn amgylchedd ar ôl y pandemig.”
“Does dim dwywaith y bydd angen gwneud penderfyniadau anodd yn y dyfodol wrth i ni addasu i realiti cyfnod ar ôl Covid, ond bydd y partneriaeth hwn yn rhoi sylfaen sefydlog i ni ailadeiladu’n well.”
Dywedodd Kevin Thomas, Prif Weithredwr KeolisAmey Cymru, Gweithredwr a Phartner Datblygu Trafnidiaeth Cymru:
“Bydd teithwyr a’r cymunedau rydym ni’n eu gwasanaethu bob amser wedi bod wrth wraidd ein partneriaeth â TrC - gan ddod o hyd i’r atebion cywir i wella gwasanaethau ledled Cymru a’r gororau.
“Yn sgil Covid-19, rydym yn cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru sefydlu ffordd gynaliadwy ymlaen er mwyn cyflawni ei hamcanion uchelgeisiol ar gyfer y rheilffyrdd; rydym yn falch ein bod wedi cytuno a rhoi egwyddorion cadarn ar waith wrth i ni weithio ar fanylion y cytundeb newydd hwn.
Mae llawer wedi’i gyflawni yn y ddwy flynedd ers i KeolisAmey ddechrau gweithio fel gweithredwyr masnachfraint Cymru a’r Gororau. Cyn Covid-19, roedd mwy o drenau’n rhedeg yn amlach nag erioed o’r blaen ar y rhwydwaith, gyda gwelliannau cyson o ran perfformiad a phrofiad teithwyr. Rydym wedi llwyddo i gyflwyno trenau mwy modern a dibynadwy ar draws y rhwydwaith, ac wedi cyflawni’r gwaith ar gyfer cyflwyno trenau newydd o 2021/22 - i Gymru’n unig a chefnogi gwelliannau pellach o ran amlder gwasanaethau ar draws llwybrau cymudo hanfodol. Un o ganlyniadau pwysig y llwyddiannau mawr hyn fu creu swyddi, sgiliau a phrentisiaethau cynaliadwy i gefnogi pobl ac economi Cymru.
Mae Keolis ac Amey yn benderfynol o gyflawni’r gwelliannau, a chwarae rhan bwysig yn y weledigaeth i drawsnewid ac ychwanegu gwerth drwy ein profiad a’n harbenigedd rhyngwladol. Rydym hefyd yn cydnabod bod hwn yn gyfle cyffrous i ddangos y sgiliau ychwanegol y gallwn ni eu hychwanegu at brosiectau trafnidiaeth gyhoeddus ehangach ledled Cymru dros y blynyddoedd nesaf. Rydym ni’n parhau i fod yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth gyda TrC ar gam nesaf y gwaith cyffrous o drawsnewid a fydd yn gwella trafnidiaeth, yn cysylltu cymunedau ac yn cefnogi ffyniant.”
I gael rhagor o wybodaeth am y cyhoeddiad a wnaed heddiw, cysylltwch â media@tfw.wales
Nodiadau i olygyddion
- O dan y partneriaeth newydd, bydd is-gwmni Trafnidiaeth Cymru yn cael ei sefydlu, a fydd â chyfrifoldeb gweithredol dros ddarparu gwasanaethau rheilffyrdd yn ddiogel ac yn ddibynadwy ar gyfer pobl a chymunedau Cymru a’r Gororau. Bydd yr is-gwmni hwn, er ei fod ym mherchnogaeth lwyr TrC ac yn cael ei reoli ganddo, yn gweithredu o dan ei drwydded a’i gymeradwyaeth ei hun, ac yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd annibynnol yn ei rôl fel rheoleiddiwr y diwydiant rheilffyrdd yn y DU. Disgwylir y bydd yr is-gwmni hwn yn cymryd y cyfrifoldeb dros y gweithrediadau rheilffyrdd gan Gweithrediadau Keolis Amey Cyf. ym mis Chwefror 2021 yn dilyn proses drosglwyddo wedi’i rheoli.
- Mae KeolisAmey wedi ymrwymo o hyd i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru i gyflawni gweledigaeth uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru. Bydd KeolisAmeyyn gweithio ar y cyd â Trafnidiaeth Cymru ar ddarparu, cyflwyno a manylebau cerbydau yn ogystal â manteisio ar arbenigedd rhyngwladol Keolis mewn meysydd fel tocynnau integredig, systemau trafnidiaeth ar-alw, dyluniad a darpariaeth ar draws dulliau teithio a'r gwaith parhaus o integreiddio rheilffyrdd ysgafn a thrwm.
- Mae Seilwaith AmeyKeolis ("AKI") yn fenter ar y cyd sydd â phwrpas arbennig a ffurfiwyd i gyflawni’r gwaith o drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd ynghyd â rheoli seilwaith a chynnal a chadw Llinellau Craidd y Cymoedd. Y prif bartner yn y fenter ar y cyd hon yw Amey, un o brif ymgynghorwyr peirianneg a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus y DU. Bydd AKI yn parhau i ddarparu gwasanaethau rheoli asedau hyblyg, atebion peirianneg a chynllunio trafnidiaeth integredig sydd wedi’u dylunio ar gyfer anghenion y cymunedau lleol nawr ac yn y dyfodol yn ogystal â chyflawni’r gofynion seilwaith ar gyfer trawsnewid rhwydwaith Llinellau Craidd y Cymoedd.