Skip to main content

Fflecsi bus service now in Pembrokeshire

28 Medi 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru yn bwrw ati i ehangu gwasanaeth bws fflecsi i ran arall o Gymru.  

Mewn partneriaeth â Thrafnidaeth Wirfoddol Sir Benfro (PVT) a Chyngor Sir Penfro, bydd y gwasanaeth newydd yn cael ei lansio’n swyddogol heddiw yng Ngogledd-orllewin Sir Benfro.  

Mae fflecsi yn wasanaeth bws lled-reolaidd sy’n ymateb i alw. Mae ganddo leoliad cychwyn a gorffen penodol ond mae’n hyblyg a gall addasu ei lwybr i gasglu a gollwng teithwyr unrhyw le o fewn yr ardal fflecsi honno.      

Yn hytrach na bod teithwyr yn aros i’r bws gyrraedd mewn safle bysiau, gallant archebu taith ymlaen llaw gan ddefnyddio ap newydd, gwefan fflecsi neu drwy ffonio 0300 234 0300. Yna, bydd y teithwyr yn cael gwybod ymhle byddant yn dal y bws a faint o’r gloch y bydd yn cyrraedd – bydd y pwynt casglu yn agos at leoliad y teithiwr.   

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth: 

“Mae fflecsi yn ffordd o drefnu ein system drafnidiaeth yn wahanol, gan roi mwy o reolaeth i deithwyr dros sut byddant yn teithio.  

“Yn ôl yr adborth cychwynnol, mae’r math yma o wasanaethau yn boblogaidd. Byddwn yn parhau i ddysgu o brofiadau mewn rhannau eraill o Gymru i greu opsiynau effeithlon a chyfleus fel rhan o system trafnidiaeth gyhoeddus integredig.”  

Drwy’r system archebu a reolir, bydd fflecsi hefyd yn sicrhau bod pob teithiwr yn cael sicrwydd o sedd a fydd wedyn yn helpu i gadw at fesurau pellter cymdeithasol. Mae diogelwch cwsmeriaid a chydweithwyr yn flaenoriaeth i TrC ac mae’r gwasanaeth newydd hwn yn sicrhau diogelwch ar drafnidiaeth gyhoeddus.  

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru: 

“Mae fflecsi yn dreial cyffrous iawn i ni wrth i ni barhau i drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Mae pandemig Covid-19 wedi effeithio’n uniongyrchol ar drafnidiaeth gyhoeddus ac, wrth i ni symud ymlaen, diogelwch ein cydweithwyr a’n cwsmeriaid yw ein blaenoriaeth bennaf o hyd. 

“Mae’r cynllun peilot newydd hwn yn rhoi’r cyfle i ni edrych ar ffordd newydd o ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus o dan yr amgylchiadau sydd ohoni.  

“Rydyn ni nawr yn cynnal cynlluniau peilot ledled Cymru ac mae’n wych gweld bod y cynllun yn cael ei ehangu i Sir Benfro”. 

Ychwanegodd Margaret Vickery, Cadeirydd Drafnidiaeth Wirfoddol Sir Benfro:  

“Mae’n bleser gan Drafnidiaeth Wirfoddol Sir Benfro (PVT) weithio gyda Trafnidiaeth Cymru (TrC) ar wasanaeth fflecsi newydd sydd ar waith ym Mhenrhyn Tyddewi. Bydd teithwyr yn cael teithio mewn bysiau newydd sbon gyda gyrwyr cyfeillgar, seddi cyfforddus a golygfeydd godidog o’n cefn gwlad. Megis dechrau mae’r gwasanaeth hwn ac edrychwn ymlaen at ei siapio i ddiwallu anghenion lleol.” 

Dywedodd y Cynghorydd Phil Baker, yr Aelod Cabinet dros Seilwaith ar ran Cyngor Sir Penfro:  

“Mae’r fenter hon yn un gyffrous iawn. Rydw i’n hynod falch ein bod wedi cael cyllid i gyflawni’r prosiect peilot hwn yn Sir Benfro. Rydw i wrth fy modd ein bod wedi gallu defnyddio gwybodaeth a phrofiad y Sector Cludiant Cymunedol yn Sir Benfro i sbarduno’r gwasanaeth hwn. Mae nifer o Gymunedau sydd erioed wedi cael mynediad at wasanaeth bws cyhoeddus o’r blaen, ond fe fyddan nhw nawr oherwydd y gwasanaeth hwn.” 

I gael rhagor o wybodaeth, yn cynnwys manylion y gwasanaethau a sut i archebu, ewch i https://www.fflecsi.cymru/locations/sir-benfro/