- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
09 Hyd 2020
Mae Trafnidiaeth Cymru a Network Rail yn cydweithio i gyflawni gwelliannau mawr yng ngorsaf Abertawe ar gyfer teithwyr y rheilffyrdd.
Bydd Network Rail a’u partneriaid Alun Griffiths Ltd yn dechrau ailddatblygu platfform 4 ar 12 Hydref. Mae’r gwaith yn cynnwys ailadeiladu ac ymestyn y platfform cyfan, er mwyn i drenau hirach allu cyrraedd a gadael. Bydd gwneud hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i’r orsaf.
Tra bo’r gwaith hwn yn mynd rhagddo, bydd TrC hefyd yn gweithio i uwchraddio cyfleusterau i gwsmeriaid fel rhan o’r Weledigaeth Gwella Gorsafoedd. Abertawe yw un o brif orsafoedd y rhaglen wella, a bydd y gwaith yn cynnwys ailfrandio ac adnewyddu’r orsaf yn llwyr, gwella cyfleusterau prynu tocynnau ac ailwampio ardaloedd ar gyfer grwpiau cymunedol a busnesau lleol.
Mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn haf 2021. Atgoffir cwsmeriaid i ganiatáu mwy o amser i wirio manylion unrhyw newidiadau i blatfformau a allai fod ar waith.
Dywedodd Alexia Course, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru:
“Rydw i wrth fy modd ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â Network Rail i gyflawni gwelliannau i deithwyr yng ngorsaf Abertawe. Yr orsaf yw’r peth cyntaf y mae teithwyr y rheilffyrdd yn ei weld ar ôl cyrraedd Abertawe, a bydd y gwaith rydyn ni’n ei wneud yn helpu i greu porth pwysig i’r ddinas.
“Mae Abertawe yn un o’r 247 o orsafoedd rydyn ni’n eu rheoli ar ein rhwydwaith, y bydd pob un ohonynt yn cael cyfleusterau gwell dros y blynyddoedd nesaf. Mae hyn yn garreg filltir bwysig yn ein Gweledigaeth Gwella Gorsafoedd wrth i ni barhau i weithio’n galed i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth y gall pobl Cymru a’r Gororau fod yn falch ohono.”
Dywedodd Bill Kelly, cyfarwyddwr llwybrau Cymru a’r Gororau, Network Rail:
“Mae hwn yn gyfnod cyffrous i orsaf Abertawe ac rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn gweithio gyda’n partneriaid Alun Griffiths a Trafnidiaeth Cymru ar y gwelliannau mawr hyn.
“Yn ddiweddar, Abertawe oedd un o’r llefydd gorau yn y DU i wneud busnes, oherwydd bod rhenti is yn denu mwy o fusnesau newydd i’r ardal.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y gwaith uwchraddio sydd ar y gweill yn yr orsaf yn annog mwy o bobl i ymweld ac i wneud busnes yn y ddinas, wrth i deithwyr ddechrau cael mwy o hyder i deithio eto.”
Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe:
“Rydyn ni’n croesawu’r buddsoddiad hwn yn yr orsaf reilffordd yng nghanol y ddinas. Bydd gwella gwasanaethau rheilffyrdd i deithwyr yn ychwanegiad gwych at y llwybrau i feicwyr a modurwyr sydd wedi cael eu trawsnewid yng nghanol y ddinas.
“Bydd gwaith ar yr orsaf reilffordd yn ategu’r degau o filiynau o bunnoedd sydd eisoes yn cael ei wario gan y sector preifat a’r sector cyhoeddus ar adeiladau a gweithfannau modern yn ardal y Stryd Fawr. Mae’r cyngor yn arwain stori adfywio gwerth £1bn yng nghanol y ddinas a’r cyffiniau; mae’n prysur ddod yn fan lle mae pobl eisiau gweithio, byw a chwarae.”