Skip to main content

Metro Control Centre going up at Taff's Well

29 Hyd 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i symud ymlaen i ddatblygu Metro De Cymru ac, yn ddiweddar, gosododd y ffrâm ddur ar gyfer y Ganolfan Reoli newydd yn Ffynnon Taf.

Bydd y Ganolfan Reoli yn goruchwylio gweithrediadau’r Metro gan gynnwys signalau a symudiadau trenau a bydd yn rhan hanfodol o Ddepo’r Metro yn Ffynnon Taf gwerth £100 miliwn.

Bydd cyfleuster cynnal a chadw modern yn cael ei adeiladu hefyd i wasanaethu a storio cerbydau Metro (Trenau Tram) newydd sbon.

Ar ôl gorffen, bydd y Ganolfan Reoli yn rheoli Llinellau Craidd y Cymoedd, y cymerodd TrC gyfrifoldeb amdanynt yn gynharach eleni. Bydd yn defnyddio’r System Rheoli Traffig diweddaraf, gan gyfuno gweithrediadau a rheoli seilwaith â gwybodaeth am yrwyr a theithwyr.

Mae prosiect Metro De Cymru wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafndiaeth a Gogledd Cymru:

“Mae systemau Metro yng ngogledd a de Cymru yn rhan o’n huchelgais am rwydwaith trafnidiaeth fodern sy’n ei gwneud yn haws i bobl deithio heb ddefnyddio car. 

“Rhan o’r rheswm y gwnaethom y penderfyniad i gael mwy o reolaeth gyhoeddus dros ein rheilffyrdd oedd i warchod y cynlluniau uchelgeisol hyn ar gyfer y Metro.  Rwyf felly’n croesawu y datblygiadau parhaus yn Ffynnon Taf.” 

Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Rhaglen Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru:

“Mae Depo’r Metro gwerth £100 miliwn yn Ffynnon Taf yn rhan bwysig o brosiect Metro De Cymru ac mae’n wych gweld y ffrâm ddur yn cael ei chodi ar gyfer ein Canolfan Reoli newydd.

“Yn y dyfodol, bydd y Depo hwn yn gweithredu Metro De Cymru a bydd yn gartref i tua 500 o staff ac rydyn ni’n falch o barhau i gyflawni ein cynlluniau a chyrraedd cerrig milltir allweddol.”

“Hoffwn ddiolch i’n Partner Datblygu Seilwaith, Alun Griffiths a’i is-gontractwyr am eu holl waith caled parhaus ar y Depo.”

Bydd Metro De Cymru yn gwella cysylltedd ledled De Cymru yn sylweddol ac yn sicrhau mynediad at swyddi, hamdden a chyfleoedd eraill i bobl Cymru drwy uno llwybrau teithio i drenau, bysiau a theithio llesol.