Skip to main content

78% complying with face coverings on trains

23 Medi 2020

Mae ystadegau Trafnidiaeth Cymru yn dangos bod 78% o’u cwsmeriaid rheilffyrdd nawr yn cydymffurfio ac yn gwisgo gorchuddion wyneb ar drenau.

Fodd bynnag, yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru, mae’n rhaid i gwsmeriaid nawr wisgo gorchuddion wyneb ym mhob ardal gaeedig gan gynnwys mewn gorsafoedd, ar blatfformau ac mewn meysydd parcio.

Mae TrC hefyd yn annog eu cwsmeriaid i wisgo eu gorchuddion wyneb yn gywir ac maen nhw’n darparu cyfarwyddiadau ychwanegol ar hyn. Mae gan y rheini sydd wedi’u heithrio rhag gwisgo gorchudd wyneb yr opsiwn i gael eu hadnabod a’u helpu drwy gynllun Anableddau Cudd Laniard Blodau’r Haul, y mae TrC yn falch o fod yn rhan ohono.

Daeth yn orfodol i bobl wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus ar 27 Gorffennaf ac ers canol Awst mae TrC wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu Trafnidiaeth Prydain i orfodi’r rheol hon. Yn ystod wythnos gyntaf mis Medi cafodd bron 500 o bobl eu gwrthod am fethu â chydymffurfio â’r rheolau.

Dywedodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Sicrwydd Trafnidiaeth Cymru:

“Yn ôl ein hystadegau, rydyn ni nawr wedi llwyddo i reoli newidiadau cadarnhaol mewn ymddygiad ar ein rhwydwaith trefnau gan ein bod, ar gyfartaledd, yn gweld 78% o bobl yn cydymffurfio ac yn gwisgo gorchudd wyneb ar drenau TrC. Diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr yw ein blaenoriaeth bennaf a hoffwn ddiolch i bawb sy’n cadw at y rheolau.

“Yn unol â gweddill Cymru, rydyn ni nawr yn gofyn i’n cwsmeriaid nad ydynt wedi’u heithrio wisgo gorchudd wyneb tra byddant yn ein gorsafoedd, ar ein platfformau ac yn ein meysydd parcio hefyd. Mae’r rhain yn fesurau diogelwch ychwanegol a fydd yn ein galluogi i barhau i weithredu’n ddiogel.”

Llwytho i Lawr