- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
17 Medi 2020
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd pont droed dros dro yn cael ei gosod yn Llanbradach i gymryd lle pont a gafodd ei dymchwel.
Cafodd pont droed wreiddiol Ty’n-y-Graig ei dymchwel yn ddiogel ym mis Mai ar ôl iddi gael ei difrodi’n ddifrifol pan gafodd ei tharo gan gerbyd ar y ffordd, ac mae TrC wedi addo adeiladu croesfan barhaol yn ei lle.
Tra bydd y groesfan hon yn cael ei hadeiladu, bydd pont dros dro yn cael ei gosod er mwyn darparu man croesi diogel ar gyfer y gymuned leol. Bwriedir iddi fod yn ei lle erbyn Nadolig 2020 - ar yr amod y bydd cyfyngiadau lleol COVID-19 yn cael eu codi - ac mae’n debygol o fod yno am 12-16 mis. Bydd y goleuadau traffig ar gyfer y llwybr dargyfeirio ar hyd Colliery Road yn cael eu tynnu oddi yno unwaith y bydd y bont dros dro newydd yn ei lle.
Dywedodd Alexia Course, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru:
“Rwy’n falch ein bod yn gallu darparu’r cyswllt pwysig hwn i gymuned Llanbradach. Ers i’r bont droed flaenorol gael ei difrodi ym mis Mai, rydyn ni wedi gweithio’n galed i ddod o hyd i ateb i’r groesfan goll; ateb y gallwn ei roi ar waith yn gyflym, gan alluogi pobl i groesi’r rheilffordd yn ddiogel heb orfod ychwanegu at eu siwrnai, tra bydd y bont barhaol yn cael ei hadeiladu.
“Hoffwn ddiolch i’r gymuned am eu hamynedd wrth i ni osod y bont droed newydd. Byddwn yn ceisio rhoi’r diweddaraf i chi am y trefniadau parhaol wrth i’n cynlluniau ar gyfer y gwaith hwn ddatblygu”.
Mae tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru wrth law i ateb unrhyw ymholiadau ynghylch gwaith ar y bont dros dro. Gall trigolion gysylltu drwy https://trc.cymru/cymorth-a-chysylltu/rheilffordd/cysylltu-a-ni neu drwy ffonio 03333 211202. Mae’r llinellau ar agor rhwng 08:00 a 20:00 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, a rhwng 11:00 a 20:00 ar ddydd Sul.