Skip to main content

Essential Travel reinforced for seasonal events in Wales

30 Hyd 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru yn atgoffa'r cyhoedd yng Nghymru mai dim ond siwrneiau hanfodol mae modd eu gwneud yn ystod y cyfnod atal byr, cyn digwyddiadau chwaraeon dros y penwythnos, ac yna Calan Gaeaf a noson tân gwyllt.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cyfyngiadau ‘atal byr’ newydd i helpu i leihau lledaeniad Covid-19 ddydd Gwener diwethaf tan ddydd Llun 9 Tachwedd 2020.  Mae TrC yn atgyfnerthu'r neges bod cyfyngiadau ar deithio yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn a dim ond os yw eu taith yn hanfodol y dylai pobl deithio.  

Penwythnos diwethaf, roedd ffigurau TrC wedi datgelu bod nifer o bobl yn teithio o Ogledd Cymru ac i Loegr ar gyfer y diwrnod/noson. Mae hefyd yn gwybod bod digwyddiadau chwaraeon yn cael eu cynnal dros y penwythnos, ac yna Calan Gaeaf a noson tân gwyllt, ac mae eisiau sicrhau bod y cyhoedd yn deall bod cyfyngiadau ar waith.

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru; 

“Diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr yw ein prif flaenoriaeth yn Trafnidiaeth Cymru ac rydyn ni’n cefnogi cyfyngiadau Llywodraeth Cymru yn llwyr i helpu i leihau lledaeniad Covid-19. 

“Yn ystod cyfnod y cyfyngiadau, bydd trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer teithiau hanfodol yn unig a byddwn yn rhedeg llai o wasanaethau.” 

Ychwanegodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Sicrwydd TrC:

“Rydyn ni’n gwybod bod digwyddiadau chwaraeon yn cael eu cynnal dros y penwythnos a bod Calan Gaeaf a noson tân gwyllt yn dilyn hynny.

“Serch hynny, mae cyfyngiadau teithio ar waith a dim ond os yw hi’n hanfodol i bobl deithio y dylen nhw wneud hynny. Rydyn ni’n dymuno Calan Gaeaf hapus i’n holl gwsmeriaid, ond arhoswch gartref, achubwch fywydau a dim ond teithio os yw hi’n hanfodol eich bod yn gwneud hynny.”

Llwytho i Lawr