Skip to main content

Transport for Wales to increase mental health support for public and staff

04 Chw 2021

Mae Trafnidiaeth Cymru yn nodi Diwrnod Amser i Siarad heddiw (4 Chwefror) gydag ymrwymiad i ddyblu nifer y swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl a’r ‘pencampwyr’ i gefnogi aelodau’r cyhoedd a staff.

Bydd y sefydliad yn dyblu ei rwydwaith o bencampwyr iechyd meddwl eleni o 24 i dros 50 a bydd hefyd yn cynyddu nifer y swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl o naw i 17 mewn gweithlu cyffredinol o 300, gyda’r bwriad o ehangu nifer y staff hyfforddedig ar y rheilffyrdd ymhellach yn y dyfodol agos.

Mae TrC hefyd wedi addo cynyddu nifer ei staff sydd wedi dilyn hyfforddiant ‘rheoli sgyrsiau hunanladdol’.
Gall yr hyfforddiant amhrisiadwy hwn, sydd wedi ennill gwobrau, helpu staff i adnabod pobl sydd yn y sefyllfa hon, siarad â hwy yn hyderus a chael sgwrs a allai achub bywyd rhywun.

Meddai Antony Thomas, Rheolwr Diogelwch, Cynaliadwyedd a Lles Trafnidiaeth Cymru: “O’r Prif Swyddog Gweithredol i’r uwch dîm arwain, mae hyrwyddo lles meddyliol yn cael ei weld nid yn unig fel rhywbeth da i’w wneud, mae hefyd yn cael ei ystyried yn hanfodol i lwyddiant ein sefydliad.

“Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y maes hwn ond rydym yn awyddus i wneud mwy o hyd.

“Fel partner sydd wedi ymrwymo i Amser i Newid ers 2019, rydyn ni’n falch o gefnogi Diwrnod Amser i Siarad a chwarae ein rhan yn helpu i roi diwedd ar y stigma sy’n gysylltiedig â materion iechyd meddwl.”

Mae TrC yn gweithio gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain a Network Rail i atal hunanladdiad ar drenau a chefnogi’r rheini y mae hyn yn effeithio arnynt.

Yn ogystal ag ymrwymo i hyfforddi mwy o staff, mae hyn yn cynnwys cefnogaeth i ymgyrch ‘Small Talk Savings Lives’ y diwydiant rheilffyrdd a ddatblygwyd mewn partneriaeth â’r Samariaid a Heddlu Trafnidiaeth Prydain.

Mae’r ymgyrch hon yn canolbwyntio ar ffyrdd o annog y cyhoedd i gefnogi’r rheini a allai fod mewn argyfwng emosiynol ar y rhwydwaith rheilffyrdd, drwy gychwyn sgwrs fach ac achub bywyd o bosibl.

Mae’n annog pobl i ofyn cwestiynau syml fel ‘pa drên ydych chi’n mynd arni?’, ‘beth ydy’ch enw chi?’, ‘oes angen help arnoch chi?’ ac ‘ydych chi’n iawn?, i bobl a allai fod mewn perygl mewn man cyhoeddus.

Gan fynd ymhellach fyth, llofnododd TrC addewid Amser i Newid yn 2019 ac mae’r sefydliad hefyd wedi cael gwobr arian am ei waith gan Mind Cymru.

Mae tîm ymgysylltu â’r gymuned a rhanddeiliaid y sefydliad yn arwain ar brosiect i ddarparu addysg ac allgymorth i ysgolion a grwpiau cymunedol ar faterion fel diogelwch a lles ar y rheilffyrdd.

Bydd hyn yn cynnwys ymgysylltu ynghylch peryglon tresmasu a chamddefnyddio croesfannau rheilffordd, yn ogystal â chyfleoedd i ddefnyddio rhwydwaith Trafnidiaeth Cymru i wella iechyd meddwl. Bydd hefyd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd defnyddio sgyrsiau bob dydd i estyn allan a siarad â phobl a allai fod angen cymorth, ar drafnidiaeth gyhoeddus neu fel arall.

Os hoffech chi i ni roi sgwrs i’ch ysgol, eich grŵp cymunedol neu rwydwaith am unrhyw un o’r eitemau hyn, cysylltwch â’r Tîm Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a’r Gymuned: engagement@tfw.wales

Llwytho i Lawr