- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
08 Chw 2019
Cafodd teithwyr yng ngorsaf drenau Bangor syndod wrth weld perfformiad o ddawns drawiadol y llew fel rhan o ddathliadau Blwyddyn Newydd y Tsieineaid.
Fel rhan o ddathliadau Blwyddyn Newydd y Tsieineaid, cafodd teithwyr yng ngorsaf drenau Bangor syrpréis heddiw (dydd Gwener 8 Chwefror) wrth weld perfformiad annisgwyl o ‘Ddawns y Llew’ ar blatfform yr orsaf.
Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan Trafnidiaeth Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, ble gwahoddwyd staff o The Garden Hotel & Cantonese Restaurant ym Mangor i gynnal y perfformiad trawiadol ar gyfer teithwyr oedd yn pasio, seremoni sy’n draddodiadol yn niwylliant Tsieina y dyweder iddi ddod â lwc a ffortiwn ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Yn ystod y perfformiad annisgwyl roedd dau ddawnsiwr wedi eu gwisgo mewn gwisg llew Tsieineaidd draddodiadol, Bwda – y dyweder ei fod yn dofi’r llew ac yn diogelu ei bobl – yn ogystal â cherddorion yn chwarae drymiau a symbalau.
Roedd y digwyddiad yn cyd-fynd â dathliadau blynyddol Blwyddyn Newydd Tsieineaidd y dref ar ddydd Sadwrn 9 Chwefror a drefnwyd gan Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor, sy’n nodi Blwyddyn y Mochyn.
Dywedodd Sandra Lui, trefnydd digwyddiad Dawns y Llew The Garden Hotel & Cantonese Restaurant ym Mangor: “Mae Blwyddyn Newydd y Tsieineaid yn amser i deuluoedd ddod ynghyd, dathlu dechreuad newydd a chael gwared ar unrhyw anlwc ar gyfer y flwyddyn newydd.
“Mae Dawns y Llew yn cynrychioli pŵer a doethineb, yn ogystal â chael gwared ar ysbrydion aflan a’u hamnewid am hapusrwydd, felly roedd dangos y traddodiad hwn i deithwyr yng ngorsaf drenau Bangor yn bleser. Gobeithio i’r gwylwyr fwynhau’r perfformiad ac y bydd yn dod â lwc iddyn nhw yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.”
Dywedodd Andrew Baker, Rheolwr Cymorth Gorsaf gorsaf drenau Bangor: “Roedd yn bleser cynnal y perfformiad Tsieineaidd traddodiadol hwn yng ngorsaf drenau Bangor er mwyn rhoi syrpréis i’n cwsmeriaid. Gobeithio iddo ddod â hapusrwydd i’w diwrnod.
“Mae hyn oll yn rhan o’n cynlluniau tymor hir i sicrhau bod ein cwsmeriaid wedi eu cysylltu’n well gyda phobl a chymunedau, ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth rheilffordd y gall ein cwsmeriaid ei fwynhau a bod yn falch ohono.”
Dywedodd Kelvin Rowlands, Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig Bangor: “Mae’n bleser croesawu’r dawnswyr llew Tsieineaidd i orsaf drenau Bangor ac mae’n fraint rhannu’r dathliadau gyda chymuned amrywiol Bangor.”
Blwyddyn y Mochyn yw 2019 ac mae Dawns y Llew yn ddawns draddodiadol yn Niwylliant Tseina a gwledydd Asiaidd eraill ble mae perfformwyr yn dynwared symudiadau llew mewn gwisg er mwyn dod â lwc a ffortiwn.
Am ragor o wybodaeth am Wasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru, ewch i www.trc.cymru.