Skip to main content

TfW customers to be compensated for 15 minute delays

01 Chw 2019

Am y tro cyntaf erioed, bydd cwsmeriaid rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yng Nghymru a’r Gororau yn gallu hawlio am achosion o oedi am ddim ond 15 munud.

Mae hyn yn dilyn cyflwyno’n llwyddiannus y system Ad-daliad am Oedi gan Trafnidiaeth Cymru ddiwedd 2018, a bydd yn golygu y caiff cwsmeriaid iawndal os byddant yn cyrraedd eu cyrchfan 15 munud yn hwyrach na’r disgwyl, waeth beth fo'r rheswm am hynny.

Gall cwsmeriaid yn awr hawlio 25% o gost pris tocyn sengl am oediadau o rhwng 15 a 29 munud.

Mae Ad-daliad am oedi’n cynnig dewis ehangach o ran ad-dalu, gan gynnwys trosglwyddiad banc, Paypal a rhodd elusennol i Railway Children, elusen sy’n brwydro dros blant y stryd.

Bydd pob rhodd i’r elusen yn derbyn cyllid cyfatebol gan Trafnidiaeth Cymru.

Disgrifiodd Pennaeth Profiad Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru, Barry Lloyd, y newid fel “budd aruthrol” i gwsmeriaid.

Dywedodd: “Rydym wedi ymroi i ddarparu gwasanaeth prydlon y gall ein cwsmeriaid fod yn falch ohono.

“Rydym yn cydnabod y gall oedi o 15 munud gael effaith sylweddol iawn ar gwsmeriaid ar y rheilffordd, a bydd y gwelliant hwn o fudd mawr iddyn nhw. Rydym eisoes wedi gwella a’i gwneud yn haws i gwsmeriaid hawlio iawndal drwy symud at ein system Ad-daliad am Oedi ac mae ymestyn yr hawl i hawlio i 15 munud yn golygu ein bod yn rhoi cwsmeriaid yn gyntaf, ac felly y dylai fod.

“Dwy gynnig i gwsmeriaid iawndal am oedi o 15 munud, rydym yn gosod nod heriol iawn i ni’n hunain o ran ein perfformiad gan ein bod yn anelu at sicrhau mai ni yw’r gweithredydd trenau gorau ym Mhrydain.”

Mae Ad-Daliad am Oedi yn golygu y bydd cwsmeriaid yn cael ymateb cyflymach i’w hawliad, oherwydd bellach bydd hawliadau’n dechrau cael eu prosesu o fewn 48 awr i’w derbyn.  Bydd system sy’n darparu mynediad ar-lein at gofnod hawliadau unigol cwsmeriaid yn galluogi cwsmeriaid i wybod beth yn union sy’n digwydd gyda’u hawliad a phryd y bydd wedi’i gwblhau. Rhaid i gwsmeriaid gadw gafael ar eu tocynnau er mwyn gwneud hawliad.

Ychwanegodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru;

“Mae cyflwyno’r cynllun iawndal hwn yn tynnu sylw pellach at y ffordd yr ydym yn rhoi'r cwsmer yn gyntaf yn ein cynlluniau i weddnewid trafnidiaeth yng Nghymru.  Rydym eisiau darparu gwasanaeth trenau sydd gyda’r gorau yn y byd ac sy’n gweithio i’r teithiwr ac nid yw hwn ond un cam sy’n cael ei gymryd gennym i helpu i sicrhau hynny.

“Rydym yn falch iawn o fod yn cyflwyno un o’r ymrwymiadau allweddol fel y nodwyd hwy yn ein cyhoeddiadau wrth lansio’n rhaglen 15 mlynedd i greu rhwydwaith trafnidiaeth y gall pobl fod yn falch ohono.”

Gall cwsmeriaid wneud hawliad drwy lenwi un o’n ffurflenni hawlio neu ar-lein https://trc.cymru/cymorth-a-chysylltu/rheilffordd/ad-daliad-am-oedi

DelayRepay3

 

LlandudnoJunctionRailStation2019.01.06-7