Skip to main content

International Women’s Day - The Women Leading the Rail Industry in Wales

08 Maw 2019

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched, mae Trafnidiaeth Cymru a Network Rail wedi ymuno â Phrifysgol Caerdydd i godi proffil tair o ferched blaenaf y diwydiant.

Cafodd Alexia Course, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Rheilffyrdd yn Trafnidiaeth Cymru, Alison Thompson, Prif Swyddog Gweithredu yn Network Rail a Bethan Jelfs, Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Gwsmeriaid yng Ngwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru eu cyfweld yng Ngorsaf Caerdydd Canolog gan Isobel Owen, myfyriwr ôl-radd newyddiaduriaeth.

Eleni, #CydbwyseddErGwell yw thema ymgyrch Diwrnod Rhyngwladol y Merched, ac mae'n canolbwyntio ar sut gallwn ni greu byd sydd â mwy o gydbwysedd rhwng y rhywiau.

Roedd y myfyriwr ôl-radd newyddiaduriaeth ifanc, a fydd yn dechrau ar ei thaith alwedigaethol ei hun cyn bo hir, yn awyddus i siarad am bwysigrwydd Diwrnod Rhyngwladol y Merched a'r heriau mae pob merch wedi'u hwynebu mewn diwydiant llawn dynion, a sut maent wedi goresgyn yr heriau hyn.

Mae Alexia Course wedi gweithio yn y diwydiant rheilffyrdd ers gadael y brifysgol ac yn ystod haf y llynedd, cafodd ei phenodi'n Gyfarwyddwr Gweithrediadau Rheilffyrdd yn Trafnidiaeth Cymru. Dywedodd hi;

"Mae'n wych dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched a chael fy nghyfweld gan fyfyrwraig o Brifysgol Caerdydd a fydd yn dechrau ar ei gyrfa broffesiynol cyn bo hir. Y thema eleni yw 'Cydbwysedd er Gwell' ac rwy'n falch bod cymhareb rhywedd Trafnidiaeth Cymru yn ei dîm uwch-reolwyr ac ar ei Fwrdd yn arwain y ffordd, gyda chynrychiolaeth dda o ddynion a merched."

"Yn ein partneriaeth â'n cyd-weithwyr yn Network Rail, hoffwn dynnu sylw at y cyfleoedd cyfartal sydd ar gael i ddynion ac i ferched ar draws y diwydiant rheilffyrdd."

Mae Alison Thompson yn beiriannydd sifil sydd wedi gweithio yn y diwydiant rheilffyrdd am bron i 30 mlynedd. Hi yw Prif Swyddog Gweithredu Network Rail yng Nghymru a'r Gororau. Fe ychwanegodd hi;

"Ynghyd â Trafnidiaeth Cymru rydyn ni'n canolbwyntio ar sicrhau'r gwasanaeth gorau i'n teithwyr. I wneud hyn, byddwn yn gwneud cryn dipyn o waith ar y rheilffyrdd ar draws Cymru a'r Gororau, gwaith a fydd yn darparu llu o gyfleoedd i bobl sydd am ddechrau gyrfa gyffrous a heriol, yn ddynion neu'n ferched."

"Rwy'n falch o ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched ac o ddangos i ferched sydd â diddordeb mewn ymuno â'r diwydiant rheilffyrdd ei fod yn gyfle gwych i bawb!"

Dywedodd Bethan Jelfs, Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Gwsmeriaid yng Ngwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru:
"Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn arbennig o bwysig ar gyfer arddangos y merched hynod dalentog a llwyddiannus yn y diwydiant rheilffyrdd.

"Rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu pobl dalentog newydd drwy ein cynlluniau prentisiaethau, ac rydyn ni'n ceisio manteisio ar bob cyfle posib i hyrwyddo pynciau STEM i fechgyn a merched.

"Mae'n arbennig o bwysig dangos na ddylai eich rhyw, ac nad yw eich rhyw, yn rhwystr i lwyddo a gwireddu eich potensial."

Am wybodaeth gyrfaoedd yn Nhrafridiaeth Cymru, ewch i:

https://www.comeaboard.co.uk/