English icon English

Y Prif Weinidog Mark Drakeford yn galw cynhadledd diogelwch pyllau glo gyntaf yn dilyn ffrwydrad pwll glo Sgiwen

First Minister Mark Drakeford calls first mines safety summit following Skewen coal mine burst

Trefnodd y Prif Weinidog Mark Drakeford gynhadleddd diogelwch pyllau glo heddiw i fynd i'r afael â diogelwch ac effeithiau amgylcheddol pyllau glo segur Cymru, ar ôl i siafft ffrwydro yn Sgiwen ac achosi llifogydd trychinebus fis diwethaf.

Daeth y gynhadledd â’r Ysgrifennydd Gwladol Simon Hart, cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, Arweinydd Castell-nedd Port Talbot, Rob Jones, yn ogystal ag Arweinydd Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan, yr Awdurdod Glo a Chyfoeth Naturiol Cymru at ei gilydd.

Galwodd y Prif Weinidog ar i drigolion Sgiwen fod wrth galon yr holl waith ar unwaith, gan awgrymu cynllun cyllid deng mlynedd i wneud diogelwch pyllau glo yn realiti ledled y wlad, gan edrych ar ystyried newid yn yr hinsawdd mewn unrhyw waith sydd ei angen.  

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

"Y glo o fryniau Cymru oedd sylfaen y chwyldro diwydiannol, gan roi cychwyn i ni ar y byd modern rydyn ni'n ei adnabod heddiw. Mae’n gwbl briodol bod ein cymunedau ni a roddodd gymaint yn byw'n ddiogel ac nad ydynt yn cael eu taro'n ariannol gan waddol negyddol y pyllau glo.

"Roeddwn i eisiau galw’r gynhadledd heddiw i drafod y risgiau i ddiogelwch y cyhoedd ac i gytuno, ymhlith pethau eraill, ar atebolrwydd, y broses adfer, pwysigrwydd ymgysylltu â'r gymuned sy’n cael ei heffeithio a'r cysylltiadau ehangach â'r agenda diogelwch tomenni glo ehangach. Er bod rhai cymhlethdodau i'w datrys, roedd y gynhadledd yn un gadarnhaol a chynhyrchiol, ac roedden ni i gyd yn gytûn am bwysigrwydd rhoi trigolion Sgiwen wrth galon ein cynlluniau.

"Cefais fy nghalonogi o glywed yr Awdurdod Glo a Llywodraeth y DU yn cytuno ar arwyddocâd hyn, yn ogystal ag arbenigedd ac ysbryd cydweithredol y gwasanaethau brys, awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru.

"Roedd Sgiwen yn hwb i’n deffro ni i gyd. Cafwyd llifogydd yn gyflym iawn mewn cartrefi ac mae effaith hyn wedi dychryn y gymuned.

"Rydyn ni’n gwybod y bydd newid yn yr hinsawdd yn cynyddu glawiad, ac felly'n peri risg ychwanegol y bydd digwyddiadau fel hyn yn digwydd eto. Mae arnom angen cynllun deng mlynedd i gyllido gwaith i ddiogelu pob pwll glo ledled y wlad, ac mae angen ystyried newid yn yr hinsawdd mewn unrhyw waith wrth symud ymlaen.        

"Byddwn yn gweithio gyda phawb cysylltiedig i wneud diogelwch pyllau glo, mwyngloddiau metel a mwyngloddiau eraill, yn ogystal â thomenni glo, yn flaenoriaeth, ac i ddod o hyd i'r llwybr cywir ymlaen ar gyfer mater sy’n bodoli ymhell cyn datganoli."

Flwyddyn i heddiw y gwelwyd tirlithriad Tylorstown yn Rhondda Cynon Taf, a achoswyd gan law trwm a llifogydd ym mis Chwefror 2020. Ers hynny, mae tair cynhadledd tomenni glo wedi cael eu trefnu ac mae'r gwaith o fapio tomenni glo ledled Cymru wedi'i gynnal, ac mae archwiliadau a gwaith cynnal a chadw’n mynd rhagddynt.